Blogiau'r Ardd

Tyfwyr Byw’n Dda – Iowan yn ffarwelio

gan

Ar ôl bod yn rhan o Tyfwyr Byw’n Dda am fwy na blwyddyn a hanner, yn anffodus mae fy nghyfnod gyda’r grŵp wedi dod i ben.

Helo, fy enw yw Iwan a phan ymunais â Tyfwyr Byw’n Dda ni allwn fod wedi dychmygu sut byddai fy mywyd.

Rwy’n cofio teimlo’n bryderus cyn mynd i’r gerddi am y tro cyntaf, ond pan gyrhaeddais roedd pawb mor groesawgar (yn enwedig Carl, y person cyntaf i fi ei weld pan gyrhaeddais), ac roedd awyrgylch mor gyfeillgar yno, a phawb yn ei gwneud yn hawdd iawn i fi ddod yn rhan o’r grŵp.

Yn y grŵp rwyf wedi cwrdd â phobl ryfeddol sy’n golygu popeth i fi. Byddaf yn trysori fy atgofion am weddill fy mywyd (mae agor gwesty i lygod dŵr yn dod i’r meddwl) a chefais ddiddordeb newydd mewn garddio (pwy fyddai wedi meddwl bod garddio mor ddifyr).  Fedra i ddim mynegi  faint mae grwpiau therapi anafiadau’r meddwl yn ei olygu i fi.  Pan oeddwn yn fy ngrŵp therapi cyntaf dim ond cysgod o ddyn oeddwn i.

Pan ddechreuais gyda Tyfwyr Byw’n Dda roeddwn mewn cadair olwyn a doedd gen i ddim syniad beth fyddwn yn ei wneud yn y dyfodol. Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach ac rwyf nawr yn cerdded eto ac yn astudio hyfforddiant pêl-droed yn y gymuned yn y brifysgol.  Ar y dechrau roedd Tyfwyr Byw’n Dda yn cael ei redeg mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol Dinas Abertawe, ac ar ôl ymuno cefais gynnig i wirfoddoli ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Gymunedol a dilyn fy mreuddwyd oes o fod yn hyfforddwr pêl-droed, a hynny’n mynd â fi nôl i fyd addysg.

Rwyf mor ffodus i fod yn rhan o’r grŵp hwn, ac ni fedra i or-ganmol y bobl sy’n rhedeg y grŵp.

Prin hanner y stori yw dweud bod hyn wedi newid fy mywyd. Grwpiau therapi sydd wedi bod yn gyfrifol am roi fy mywyd nôl i fi, ac yn siŵr ni fyddwn wedi gallu dilyn fy mreuddwyd o yrfa. Ac am hynny rydw i’n fythol ddiolchgar.

Rwy’n dymuno’n dda i bawb yn Tyfywr Byw’n Dda yn y dyfodol: rydw i mor ddiolchgar am bopeth rydych chi wedi’i wneud drosof fi.

DIOLCH I CHI!!!”