Ysgolion Uwchradd
Mae ein rhaglenni ymarferol ar gyfer Addysg Uwchradd yn cynnig profiadau dysgu sy’n cael eu harwain gan staff brwdfrydig a phrofiadol, ac yn cefnogi’r cwricwlwm a seilir ar sgiliau, ac yn canolbwyntio ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang, yn ogystal â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (GTPM).
Mae pob sesiwn yn cynnwys:
- Y dewis o ymweliad rhad ac am ddim i athro, wedi’i drefnu ymlaen llaw, cyn yr ymweliad gan y grŵp
- Mynediad i’r Ardd i ddisgyblion a staff dysgu (rhowch alwad er mwyn trefnu cymarebau)
- Cwrdd a chyfarch ar fynediad
- Gweithgaredd arbennig i chi, sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, a arweinir gan un o’n hathrawon.
- Mynediad i’n cyfleusterau ciniawa.
Peidiwch ag anghofio bod y rhan fwyaf o’n gweithgareddau yn digwydd yn yr awyr agored, felly paratowch am bob tywydd.
Gellir addasu ein holl raglennni er mwyn cwrdd ag anghenion eich dosbarth.
Gellwch hefyd ddod â grŵp hunan-arweiniol i’r Ardd.
Cysylltwch â Kay yn yr Adran Addysg am fwy o fanylion.