Ysgolion cynradd
Gall athrawon ddewis o amrywiaeth o destunau gan gynnwys Gwyddoniaeth, Mathemateg a Llythrennedd er mwyn helpu gyda chefnogi dysgu yn y stafell ddosbarth. Ry’n ni’n eich hannog i roi galwad inni, neu ymweld â ni, cyn eich ymweliad, er mwyn trafod eich angenion gyda’n staff dysgu.
Ynghyd â sesiwn rhyngweithiol a arweinir gan un o’n tîm ni, cewch amser i archwilio gwahanol ardaloedd o’r Ardd. Awgrymwn yn ystod y cyfnod hwn i chi ganiatáu i’ch disgyblion archwilio’r amgylchedd awyr agored yn yr Ardd yn annibynnol. Am fwy o arweiniad ar hyn, rhowch alwad inni.
Mae pob ymweliad yn cynnwys
- Y dewis i gynllunio ymweliad am ddim i’r athro ymlaen llaw, cyn yr ymweliad ffurfiol ei hun
- Mynediad i’r Ardd ar gyfer y disgyblion a’r staff dysgu (rhowch alwad er mwyn trafod cymarebau)
- Cyfarfod a chyfarch wrth y fynedfa
- Gweithgaredd addas yn ymwneud â’r cwricwlwm, wedi’i harwain gan un o’n hathrawon
- Mynediad i’n cyfleusterau ciniawa
Peidiwch ag anghofio bod y rhan fwyaf o’n gweithgareddau yn digwydd yn yr awyr agored, felly rhaid i chi baratoi am unrhyw dywydd!
Gall pob un o’n rhaglenni gael ei haddasu ar gyfer anghenion eich dosbarth.