
Bob blwyddyn ry’n ni’n croesawu myfyrwyr o amrywiaeth o sefydliadau addysg ôl-16 a phrifysgolion.
Ry’n ni’n cynnig teithiau tywys a rhaglenni wedi’u haddasu’n arbennig ar eu cyfer er mwyn cwrdd â’u hangenion ar bynciau sy’n cynnwys:
- Gwyddor Fotaneg Gymhwysol
- Garddwriaeth
- Datblygu Cynaliadwy a Thechnolegau Gwyrdd
- Arolygu a Chadw Cynefin
- Peirianneg yn yr Ardd Fotaneg (gan gynnwys y Tŷ Gwydr Mawr)
- Teithio, Hamdden a Thwristiaeth
- Addysg yn yr Awyr Agored
- Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang
- Archeoleg Parciau a Gerddi
- Cadwraeth o Amgylchedd Hanesyddol – Rheolaeth Treftadaeth
- Coed Hynafol – gwerth a rheolaeth eu hanes a bioamrywiaeth
- Dyluniad Parciau a Gerddi Hanesyddol
- Syr William Paxton a’i Barc Dŵr y Rhaglywiaeth
- Tirlun a gerddi addurnol 17eg Ganrif y Neuadd Middleton
Gallwch hefyd ymweld â ni fel grŵp hunan-arweiniol. Efallai yr hoffech ddefnyddio’r lleoliad unigryw er mwyn ysgogi gwaith celf, ffotograffiaeth, ysgrifennu creadigol neu farddoniaeth, neu er mwyn cael eich ysbrydoli gan arddangosfeydd celf neu lwybrau tymhorol.
Sut i archebu ymweliad
Cysylltwch â Kay yn yr Adran Addysg os gwelwch yn dda er mwyn archebu eich ymweliad.