Erbyn mis Gorffennaf mae’r dolydd wedi dod i aeddfedrwydd, a blodau gwyllt diwedd y gwanwyn wedi pylu a bwrw eu hadau. Mae’r glaswelltau’n dal ac yn llyfn ac yn siglo yn yr awel dyner, gan gysgodi’r mamaliaid a’r pryfed sy’n byw yn yr isdyfiant.
Mae ton newydd o blanhigion dwfn eu lliw yn poblogi’r ddôl. Mae porffor cyfoethog y bengaled a chribau San Ffraid yn cydweddu â melyn euraidd y friwydd felen ac ytbysen y ddôl.
Mae’r amrywiaeth gyfoethog o blanhigion yn cynnal llu o bryfed – mae’n amser o ffyniant i wenyn a gloÿnnod byw.
Ar hyd ymylon y ffyrdd, mae clafrllys y maes yn nodio’i ben ar y ceir sy’n mynd heibio, tra bo’r efwr a mieri yn tra-arglwyddiaethu ar y gwrychoedd.
Rydym wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i rai o’r blodau gwyllt mwyaf cyffredin a hardd y gallwch ddod o hyd iddynt yn ystod mis Mehefin, a gallwch ei lawrlwytho isod. Gyda digonedd o flodau gwyllt o gwmpas ‘nawr, mae hwn yn amser rhagorol i ymarfer eich sgiliau adnabod.
Byddwn yn cyhoeddi rhagor o ganllawiau trwy gydol y flwyddyn, ac yn rhoi mwy o awgrymiadau i’ch helpu â’ch sgiliau adnabod.
Mae croeso i chi dagio @BiophilicWales neu @WatersElliot i luniau o flodau gwyllt ar Twitter yr ydych wedi’u gweld neu y mae arnoch angen help i’w hadnabod!
Lawrlwytho: Canllaw i Flodau Gwyllt Mis Gorffennaf