I ddathlu llesiant planhigion iach, pennodd y Cenhedloedd Unedig y byddai 2020 yn Flwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion. Drwy ddiogelu iechyd planhigion rydyn ni’n diogelu’r buddiannau mae planhigion yn eu rhoi i’n hiechyd a’n lles ein hunain, i fywyd gwyllt, ein diwylliant a’n heconomi.
Mae yna lawer ffordd y gall garddwyr helpu cadw planhigion yn iach ar eu tir eu hunain ac yn yr amgylchedd ehangach – dyma rai enghreifftiau.
Garddio drwy ecosystem
- Meddyliwch am eich gardd fel ecosystem fechan. Mae dros 20,000 o rywogaethau o bryfed yn byw ym Mhrydain ac mae rhai ohonynt yn bla yn ein gerddi – rydyn ni’n dibynnu ar nifer o’r pryfed hyn ar gyfer peillio, rheoli plâu, iechyd y pridd ac ailgylchu maetholion. Mae pryfed sy’n bla eu hunain hyd yn oed yn bwysig, gan eu bod yn rhan o’r gadwyn fwyd ar gyfer bywyd gwyllt arall.
- Gall defnyddio plaladdwyr cemegol ladd pryfed defnyddiol fel peillwyr ac achosi i boblogaethau o blâu ailgodi’n ddiweddarach. Defnyddiwch ddulliau heb gemegolion i reoli plâu, fel rhwystrau ffisegol, trapiau glud, trapiau fferomon, dileu â llaw a bioreoli
- Mae nematodau bioreoli ar gael i reoli gwlithod, gwiddon gwinwydd a chilion ffwng. Yn ein tai gwydr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru rydym yn defnyddio dulliau fel hyn mewn rhaglen integredig i reoli plâu.
Mae gardd sy’n garedig i fywyd gwyllt yn aml yn fwy cytbwys yn ecolegol ac yn dioddef gan lai o broblemau gan ysglyfaethwyr a chlefydau.
- Anogwch boblogaethau naturiol i ysglyfaethwyr a pharasitiaid drwy ddarparu cynefinoedd a pheidio â defnyddio cemegolion. Caiff pryfed glas (aphids) eu bwyta gan y fuwch goch, larfa pryfed hofran, adenydd siderog a gwenyn meirch. Caiff gwlithod eu bwyta gan adar, draenogod a brogaod. Bydd nifer o fathau bach o wenyn meirch yn byw fel parasitiaid ar bryfed eraill.
- Gall plannu planhigion cymar – tyfu blodau yn ymyl llysiau – gael ei ddefnyddio i ddenu pryfed llesol.
Garddio ymarferol
- Gall planhigion wedi’u pentyrru ar ben ei gilydd gynnwys mwy o blâu a chlefydau. Rhowch ddigon o awyr iach a digon o le i blanhigion sy’n dioddef a’u tocio pan fyddan nhw’n rhy drwchus.
Mae planhigion sy’n anhapus yn fwy agored i ddal plâu a chlefydau, felly dewiswch y planhigyn cywir ar gyfer y man cywir.
- Gall tyfu blociau o’r un planhigyn (unllystyfiant) fod yn wledd ddiddiwedd o’u hoff fwyd neu leoliad i blâu a chlefydau. I osgoi hyn, cymysgwch blanhigion – er enghraifft, wrth blannu clawdd, dewiswch fathau amrywiol.
- Mynnwch wybod pwy yw eich gelyn: holwch yn ofalus am broblemau planhigion i weld pa gamau sy’n briodol – efallai na fydd problem o gwbl.
- Cofiwch arferion glendid yn yr ardd drwy lanhau eich offer garddio, peiriannau, potiau a hambyrddau.
- Gall gorchuddio casgenni dŵr atal sborau ffwng rhag crynhoi.
- Os caiff gwastraff planhigion ei daflu dros ben clawdd yr ardd, gall planhigion gardd drechu cynefinoedd naturiol yng Nghymru – cofiwch waredu gwastraff gardd yn gyfrifol drwy ei gompostio neu ddefnyddio sachau gwastraff gardd.
Gofalwch am eich pridd
- Mae iechyd y pridd yn allweddol i iechyd planhigion. Mae pridd yn caniatáu i blanhigion gymryd dŵr a maetholion i mewn, ac mae’n cynnwys ffyngau mycorrhizal sy’n helpu planhigion i dyfu.
- Newidiwch eich pridd i’w wneud yn fwy addas i’r planhigion rydych am eu tyfu, er enghraifft, drwy ychwanegu dulliau traenio neu ddefnydd organaidd.
- Gall cylchdroi cnydau helpu cadw plâu a chlefydau sydd yn y pridd dan reolaeth.
Ffynonellau planhigion newydd
- Byddwch yn arbennig o wyliadwrus wrth archebu planhigion a chynnyrch planhigion ar-lein – gallant ddod o wledydd pell ac osgoi archwiliadau iechyd planhigion.
Gall planhigion wedi’u mewnforio gynnwys plâu a chlefydau newydd o wledydd tramor – i leihau’r perygl hwn, byddwch yn ofalus ble i brynu planhigion newydd, prynwch rai lleol sydd wedi’u tyfu yn y Deyrnas Gyfunol. Bydd hyn yn helpu cadw plâu a chlefydau dinistriol newydd fel bacteria Xylella allan o’r wlad.
- Cadwch lygad ar iechyd planhigion newydd yn eich gardd. Ble bynnag y bydd yn bosibl, cadwch nhw ar wahân i blanhigion eraill am ychydig wythnosau.
- Lle bydd yn bosibl, tyfwch eich planhigion eich hun o had neu o doriadau.
- Pan fyddwch ar wyliau tramor, gwerthfawrogwch blanhigion yn eu lle. Peidiwch â dod â phlanhigion na hadau nôl gyda chi oherwydd gallwch fod yn dod â phla, clefyd neu rywogaeth ymledol newydd gyda chi.
- Os yw eich gardd yn dioddef oherwydd plâu neu glefydau arbennig, chwiliwch am fathau sy’n eu gwrthsefyll yn naturiol.