Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cychwyn ar brosiect pum mlynedd o hyd i hyrwyddo garddwriaeth, amddiffyn bywyd gwyllt ac i ganmol y manteision o dyfu planhigion am fwyd, hwyl, iechyd a lles yng Nghymru.

Mae Tyfu’r Dyfodol yn rhaglen i Gymru gyfan, a fydd yn gweld saith swydd newydd yn cael eu creu yn yr Ardd Fotaneg yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r prosiect wedi derbyn £2.3 o gyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’n dilyn ymlaen o gynllun arbrofol llwyddiannus Tyfu’r Dyfodol yr Ardd Fotaneg.

Yn arwain y prosiect fydd Pennaeth Gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg, Dr Natasha de Vere. Meddai: “Mae’r prosiect newydd hwn yn newyddion gwych i’r Ardd, i arddwriaeth ac i Gymru.”

“Mae gerddi a garddio yn rhan o’n ffordd o fyw ac mae ganddynt gymaint i’w gynnig o ran iechyd a ffitrwydd, fel cynefinoedd i fywyd gwyllt ac fel lleoedd i sicrhau ein cyflenwad bwyd. Bydd Tyfu’r Dyfodol yn edrych ar yr holl agweddau hyn gyda ffocws arbennig ar hyfforddiant ac ymgysylltu.”

Eglurodd Dr de Vere y bydd y cyrsiau a’r digwyddiadau arbennig a gynlluniwyd i dynnu sylw at y meysydd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i arddangos yr ystod eang o gynnyrch garddwriaethol Cymreig o ansawdd uchel – feithrinfeydd arbenigol sy’n cynhyrchu planhigion a blodau unigryw, i dyfwyr masnachol sy’n darparu’r ffrwythau a llysiau gorau.

“Mae rhoi sylw i’r holl waith sy’n digwydd, a’r cynnyrch Cymreig arbennig yn rhan bwysig o’r prosiect, a byddwn hefyd yn edrych tuag at y dyfodol a sut y gallwn fanteisio ar y wyddoniaeth a’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer dyfodol sy’n gynaliadwy.”

“Un o’r elfennau allweddol fydd harneisio’r ymchwil blaengar i helpu arbed peillwyr yng Nghymru sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd gan dîm gwyddoniaeth yr Ardd.” Meddai Dr de Vere.

Ynghyd ag ystod eang o gyrsiau hyfforddi i oedolion a phlant o bob cwr o Gymru, mae’r prosiect hefyd yn cynnwys digwyddiadau megis gwyliau, cynadleddau, sioeau a gweithgareddau i’r teulu.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Bydd y prosiect newydd cyffrous hwn, Tyfu’r Dyfodol, yn darparu hyfforddiant ac ymgysylltiad i gefnogi gwerth gerddi ar gyfer tyfu bwyd, cadw’n heini a’n helpu’r amgylchedd trwy arddangos yr amrywiaeth ac ansawdd o gynnyrch garddwriaethol Cymreig.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Huw Francis: “Rydym yn gyffrous iawn am Dyfu’r Dyfodol. Yr uchelgais yw hybu gwerth gerddi ar gyfer tyfu bwyd, cadw’n heini a helpu’r amgylchedd, gan hyrwyddo cynnyrch a chynhyrchwyr Cymru, a sicrhau dyfodol y sector.”

Gwnaeth cynllun arbrofol Tyfu’r Dyfodol, a wnaeth rhedeg rhwng 2012 a 2015, gweld mwy na 5,000 o bobl yn cael eu hyfforddi mewn plannu, hau a thyfu. Mae’r prosiect Tyfu’r Dyfodol newydd yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn anelu at ymgysylltu â mwy na 100,000 o bobl dros bum mlynedd y prosiect.