Celf-Gwyddoniaeth

Mae Celf-Gwyddoniaeth yn darparu cyfryngau effeithiol ar gyfer denu cynulleidfaoedd ehangach at wyddoniaeth.  Ond mae’n mynd y tu hwnt i hynny; mae gweithio gydag artistiaid yn ehangu ein gorwelion, ac yn ein caniatáu ni i feddwl yn wahanol ac yn fwy creadigol am ein gwaith ymchwil.

Mae gwyddoniaeth a chelf, y ddau, yn ceisio archwilio ac edrych ar rai o’r problemau sy’n wynebu cymdeithas.  Mae distrywio cynefinoedd, newid yn yr hinsawdd, a gor-ecsploetiaeth yn bygwth goroesiad nifer o rywogaethau a chynefinoedd. Er mwyn deall a helpu atal hyn rhag digwydd, mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd.  Os down ni ag arbenigedd, sgiliau, a phrofiad, yn ogystal ag amrywiaeth eang o bobl at ei gilydd, gallwn greu atebion mwy arloesol a phwerus i’r problemau hyn.

Mae ein hadran Wyddoniaeth yn cydweithio ag artistiaid er mwyn cynhyrchu gwaith ac arddangosfeydd i’w dangos yn yr Ardd ac hefyd yn rhyngwladol.  Mae crochenwaith, cerflunwaith, brethynnau, printiau, ffotograffau, a chyfansoddiadau cerddorol, i gyd wedi’u creu mewn ymateb i’n gwaith ni yma.  Ysbrydolwyd arddangosfeydd gan ein bar-godio DNA, ein prosiectau gwarchod planhigion Cymru, a’n hymchwil i beillwyr.