Clari’r maes

Salvia pratensis

Mae Clari’r maes, Salvia pratensis, yn blanhigyn prin yn y DU, ac hyd y gwyddom, mae ond wedi ei ganfod mewn un llecyn bach yng Nghymru, ar ddôl gwair, a hynny am y tro cyntaf yn 1903.   Wrth i’r niferoedd ostwng, daeth amser pan nad oedd y planhigyn i’w weld ar yr un safle hwnnw ychwaith a chafwyd ei ddatgan yn 2004 fod clari’r maes yn ddarfodedig yn y gwyllt yng Nghymru. Serch hynny, cyn iddo gael i’w golli, casglwyd a thyfwyd ychydig bach o’i had yng Ngardd Fotaneg Treborth.

Rydym yn archwilio ecoleg clari’r maes er mwyn ei ail-gyflwyno yma yng Nghymru.  Eisoes cafodd ei dreialu yn ei gynefin Cymreig blaenorol, trwy ddefnyddio planhigion a dyfwyd yma yn yr Ardd o boblogaethau a oedd yn tyfu yng Nghymru a Lloegr.

Moughan, J., McGinn, K.J., Jones, L., Rich, T.C.G., Waters, E., de Vere, N., (2021). Biological Flora of the British Isles: Salvia pratensisJournal of Ecology. 1–20.