Ecoleg Pryfed Hofran

Fel oedolion, mae pryfed hofran yn bwyta neithdar a phaill, a dim arall, sy’n eu gwneud nhw’n beillwyr pwysig.    Maen nhw hefyd yn bryfed trawiadol iawn eu golwg, oherwydd bod nifer yn edrych yn debyg iawn i wenyn a phicwn.   Maen nhw wedi datblygu i fod fel hyn fel dull o amddiffyn eu hunain; er eu bod nhw’n ddiniwed, maen nhw’n edrych fel pryfed a all bigo, ac felly gallan nhw ddychryn ysglyfaethwyr.

Mae un o’n myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth, Andrew Lucas, yn edrych ar rôl pryfed hofran fel peillwyr mewn cynefin eiconig Gymreig; y glaswelltir corsiog a elwir yng Nghymru yn rhostiroedd.  Ar draws Prydain, er mwyn dwysáu amaethyddiaeth, collwyd dros 97% o laswelltir tebyg, gydag amrywiaeth o rywogaethau ynddo, ers y 1960au.   Mae pryfed hofran yn debyg o fod yn beillwyr pwysig o fewn y cynefinoedd cynyddol brin hyn, ynghyd â darparu ‘gwasanaeth ecosystem’  o beillio i’r cefn gwlad ehangach o’i gwmpas.  Fodd bynnag, ni wyddys llawer am eu rôl yng nghludiant paill.

Ar gyfer yr astudiaeth, casglwyd pryfed hofran a golchwyd y paill o’u cyrff.   Echdynnwyd y DNA wedyn o’u paill, er mwyn gweld pa blanhigion y glanion nhw arnynt. Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi syniad inni o ystod y paill a gludir gan bryfed hofran.   Mae’r paill a gludir fwyaf aml yn cynnwys rhywogaethau teulu’r Apiacieae, fel y carwy droellenog a’r angelica, ynghyd â’r fiaren, ysgallen, ysgawen, botwm yr ysbryd drwg, erwain a grug.  Mor belled, canfyddwyd bod paill o dros 60 o rywogaethau o blanhigion, neu grwpiau o rywogaethau, yn cael eu cario gan bryfed hofran.   Bydd y canlyniadau yn dangos y dewis o flodau a ddefnyddir gan bryfed hofran unigol, a rôl y pryfed hyn mewn cludo paill yn y glaswelltiroedd pwysig hyn.