29 Ebr 2015

Gwobr arbennig iawn i Simon

Colin Miles

Dyfarnwyd y wobr o Aelod Cyswllt Er Anrhydedd yr RHS i’r curadur Simon Goodenough.

Simon Goodenough
Simon Goodenough

Mae’r wobr glodfawr hon, a sefydlwyd yn 1930, yn cael ei dyfarnu gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol i bobol o dras Brydeinig yn unig sy wedi rhoi gwasanaeth clodwiw i arddwriaeth naill ai fel cyflogwyr neu weithwyr yn ystod eu gyrfa. Ni all y nifer o Aelodau Cyswllt Er Anrhydedd fod yn fwy na 100 ar unrhyw adeg. Dywedodd Dr Rosie Plummer, cyfarwyddwr yr Ardd : “ Mae hyn yn anrhydedd ardderchog ac mae’n ei llawn haeddu; yn gwbl gyfiawn am ei gyfraniad gwych i Ardd Fotaneg Ventnor ac yn fwy diweddar am ei holl waith yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.” Dywedodd Simon: “Mae hyn yn newyddion ardderchog yn ddiau ac yn ffordd dda o gychwyn 2015. Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r gymdeithas am yr anrhydedd.” Mae i fod i dderbyn ei wobr oddi wrth Lywydd RHS, Syr Nicholas Bacon, ym mis Chwefror.