Rydym yn chwilio am fyfyrwyr a phrentisiaid i gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gydag Aelodau’r Cynulliad ynglŷn â Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru. Rydym am glywed eich barn ynglŷn ag a ydych yn credu bod digon yn cael ei wneud i annog pobl ifanc i ddilyn cyrsiau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Hoffem hefyd glywed eich barn ynglŷn ag a yw’r cyrsiau hyn yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau gofynnol ar gyfer gyrfa yn y meysydd hyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch neges yn mynegi eich diddordeb at celyn.cooper@cymru.gov.uk
Cofiwch gynnwys y manylion canlynol yn eich cyflwyniad:
- Eich enw
- Rhif ffôn cyswllt
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion eich cwrs (yn cynnwys manylion ynglŷn â ble’r ydych yn astudio, enw’r cwrs, eich blwyddyn astudio ac ati.)
- Cod post eich cartref
- Ychydig o fanylion ynglŷn â pham yr hoffech gymryd rhan.
Cynhelir y we-sgwrs ar fore 30 Ebrill, a bydd yn cynnwys gwe-sgwrs brawf ragarweiniol. Cyhoeddir y manylion am hyn yn fuan.
Bydd y we-sgwrs hon yn rhan o Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i sgiliau STEM, a dyma’ch cyfle chi i ddweud eich dweud!
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, cliciwch yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=9156
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn.