
Croeso i gylchlythyr diweddaraf prosiect Tyfu’r Dyfodol, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, tanysgrifiwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Cwrs Perlysiau
Ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 30ain, ymunwch â Neil Barry am Gwrs Perlysiau Hapus.
Does dim byd tebyg i’r blas a’r arogl o berlysiau a thyfwyd gartref. Ar y cwrs hwn, dysgwch am yr holl fathau gwahanol o berlysiau a sut i luosogi, tyfu, gofalu amdanynt a’u defnyddio.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-2yp – £40 (£36 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda.
Cwrs Deall Enwau a Theuluoedd Planhigion ar gyfer Garddwyr
Ar Ddydd Iau, Gorffennaf 5ed, ymunwch â Swyddog Gwyddoniaeth prosiect Tyfu’r Dyfodol, Dr Kevin McGinn, am Gwrs Deall Enwau a Theuluoedd Planhigion ar gyfer Garddwyr.
Ydych chi wedi drysu gan fyd dirgel enwau planhigion? Ydych chi am adnabod planhigion yn eich gardd on yn ansicr ble i ddechrau? Dyma’r cwrs i chi!
Nod y cwrs hwn yw disgrifio enwau gwyddonol planhigion gardd a’ch helpu chi i adnabod teuluoedd planhigion sy’n cael eu canfod yn gyffredin mewn gerddi’r DU. Mae’n cynnwys taith o deuluoedd planhigion yr Ardd Fotaneg a sesiwn adnabod ymarferol yn ein labordai gwyddoniaeth.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10.30yb-3.30yp – £35 (£32 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda. Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno eto ar Ddydd Sadwrn, Awst 18fed.
Blog: Enwau Planhigion a’u Hymarferoldeb
Pam ddylem ni boeni ag enwau planhigion Lladinaidd? Cewch wybod yn blog cyntaf Kevin ar wefan yr Ardd Fotaneg!
Dysgwch pwysigrwydd enwau Lladinaidd a chyffredin ac, os hoffech chi ddysgu mwy, gallwch ymuno ag ef ar Gwrs Enwau Planhigion ar Ddydd Iau, Gorffennaf 5ed neu Ddydd Sadwrn, Awst 18fed.
Sesiynau Cadw Gwenyn Ymarferol 5-Wythnos: Tymor yr Haf – Lleoedd dal ar gael
Mae’r cyntaf o’n sesiynau ymarferol wythnosol yng Ngardd Wenyn yr Ardd Fotaneg yn dechrau ar Ddydd Mercher, Gorffennaf 4ydd, ac mae llefydd cyfyngedig iawn ar gael o hyd.
Ymunwch â Hyfforddwr Ecosystemau prosiect Tyfu’r Dyfodol, Lynda Christie, am bum sesiwn ymarferol wythnosol yn yr Ardd Wenyn, yn agor cychod gwenyn a dysgu sut i’w hasesu’n effeithiol. Wedi’i ddilyn sesiynau dosbarth yn gwerthuso’r arolygiadau gan hefyd ddysgu am y flwyddyn cadw gwenyn. P’un ai ydych chi’n ddarpar wenynwr neu’n un sy’n gwella, gallwch ddatblygu’ch hyder wrth gynnal archwiliad o’r cychod gwenyn.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 6.30-9yh – £150 (£135 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda. Bydd yna Gwrs 5-Wythnos Theori ar Gadw Gwenyn (Tymor y Gaeaf) yn dechrau ar Ddydd Mercher, Hydref 31ain.
Cyrsiau Cadw Gwenyn
P’un a ydych chi’n ddarpar wenynwr neu un sy’n gwella, datblygwch eich gwybodaeth, sgiliau ac hyfer wrth gynnal eich cychod eich hun, gyda chymorth gan Gyrsiau Cadw Gwenyn Tyfu’r Dyfodol.
Am fwy o wybodaeth ar y cyrsiau isod, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda.
Cwrs Cyflwyniad i Gadw Gwenyn
Dydd Sul Gorffennaf 22ain & Dydd Gwener Awst 10fed – 11yb-2yp
Cyflwyniad i brosiect Tyfu’r Dyfodol a pham yr ydym yn cadw gwenyn yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Dysgwch am gytrefi’r gwenyn mêl ac ewch i Ardd Wenyn yr Ardd, gwisgwch wisg cadw gwenyn, agorwch gwch gwenyn a chewch weld ei bresylwyr, gan gynnwys y gweithwyr, y begegyron a’r Frenhines.
£35 (£32 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd)
Cosmetigau’r Ardd Wenyn
Dydd Mawrth Medi 4ydd & Dydd Sadwrn Tachwedd 17eg – 11yb-2yp
Dysgwch am gynhyrchion y cwch a gynhyrchir gan y gwenyn mêl, priodweddau’r cŵyr gwenyn a mêl a’u defnydd mewn cynhyrchion harddwch. Dysgwch yr egwyddorion o greu sebon gydag arddangosiad ar wneud sebon mêl. Gwnewch gynhyrchion i fynd adref yn cynnwys balm gwefus, menyn corff a hufen i’r wyneb.
£45 (£42 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd)
Sesiynau Cadw Gwenyn Ymarferol 5-Wythnos – Tymor yr Haf
Dydd Mercher Gorffennaf 4ydd, 11eg, 18fed, 25ain & Awst 1af – 6.30-9yh
Pum sesiwn ymarferol wythnosol yng Ngardd Gwenyn yr Ardd, yn agor y cychod gwenyn a’n dysgu sut i’w hasesu’n effeithiol. Wedi’i ddilyn gan sesiynau dosbarth yn gwerthuso’r arolygiadau gan hefyd ddysgu am y flwyddyn cadw gwenyn. P’un a ydych chi’n ddarpar wenynwr neu un sy’n gwella, gallwch ddatblygu’ch hyder wrth gynnal archwiliadau’r cychod gwenyn.
£150 (£135 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd)
Sesiynau Cadw Gwenyn Theori 5-Wythnos – Tymor y Gaeaf
Dydd Mercher Hydref 31ain & Tachwedd 7fed, 14eg, 21ain & 28ain
Pum sesiwn dosbarth wythnosol ar gadw gwenyn trwy gydol y flwyddyn. P’un a ydych chi’n ddarpar wenynwr neu un sy’n gwella, datblygwch eich gwybodaeth ac hyder wrth gynnal eich cychod mewn pob tymor.
£150 (£135 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd)
Cyrsiau Garddwriaeth Ymarferol
Mae yna amrywiaeth eang o gyrsiau Garddwriaeth Ymarferol a Gwyddoniaeth & Garddwriaeth yn addas at bawb, o ddylunio plannu i ddechreuwyr i greu gardd synhwyrol, datblygwch eich gwybodaeth a sgiliau garddwriaeth gyda chwrs Tyfu’r Dyfodol.
Planhigion Am Ddim
Dydd Sadwrn Gorffennaf 7fed – 10yb-2yp
Lluosogi – y gorau o uwch-gylchu – planhigion newydd o’r hen! Gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau lluosogi i greu planhigion newydd o’r rhai sy’n bodoli eisoes. Gan edrych ar doriadau gwreiddyn a choes, haenu a rhannu.
Llwyddiant gyda Hadau
Dydd Iau Gorffennaf 12fed – 10yb-2yp
Yn cymryd y dirgelwch allan o hadu hadau. Helpu i’r rhai sy’n mynychu i dyfu ystod eang o blanhigion addurnol a bwytadwy yn llwyddiannus, gan fynd â rhywfaint o’r hyn y maent wedi’i hau adref.
Gerddi Synhwyraidd
Dydd Sadwrn Gorffennaf 21ain – 10yb-2yp
Gardd ar gyfer y synhywrau – dyluniwch eich ardal er mwyn iddo gael mwy nag apêl weledol – crëwch nodweddion sy’n apelio at yr holl synhwyrau.
Deall a Thrin Pridd – NEWYDD!
Dydd Iau Gorffennaf 26ain – 10yb-2yp
Gan ddefnyddio sampl pridd o’ch gardd eich hun, gallwch ddarganfod y math o bridd sydd gennych (gwead, PH) a dysgu sut i wneud y gorau ohono i dyfu planhigion iach yn llwyddiannus. Bydd y sesiwn yn ymdrin â sut i gynnal a gwella’ch pridd. Yna, bydd y sesiwn yn edrych ar, ac ymarfer, technegau amaethu amrywiol i ddarparu’r amgylchedd gorau i wreiddiau eich planhigion.
Garddio ar gyfer Natur – NEWYDD!
Dydd Iau Awst 16eg – 10yb-2yp
Lleihewch eich effaith ar yr amgylchedd trwy arddio’n gynaliadwy ac i annog bywyd gwyllt i’ch gardd. Gellir cyflawni garddio gyda llai o effaith ar yr amgylchedd trwy weithio gyda natur. Gall y canlyniadau fod yn ardd iach sy’n gyfeillgar ac yn ddeniadol i fywyd gwyllt. Dysgwch sut i arddio’n organig ac arbed arian trwy lleihau’r defnydd o gemegau trwy helpu natur i wneud y gwaith. Edrychwch ar sut dduliau i greu cartrefi a bwyd ar gyfer bywyd gwyllt a gwenwch flwch adar i fynd adref.
Dylunwaith Plannu i Ddechreuwyr – NEWYDD!
Dydd Sadwrn Medi 15fed – 10yb-2yp
Trosolwg o’r egwyddorion allweddol o ddylunio plannu i roi dealltwriaeth i’r rhai sy’n mynychu sur i greu gardd sy’n ‘gweithio’ ac yn bleser i’r llygad. Pynciau i gynnwys graddfa a chyfran, cydbwysedd, theori lliw a gwead.
Paratoi eich Gardd ar gyfer y Gaeaf – NEWYDD!
Dydd Sadwrn Medi 22ain – 10yb-2yp
Gan edrych ar rannu planhigion lluosflwydd, taenu i ddychwelyd maeth i welyau blodau, tocio llwyni yn yr hydref, plannu coed a llwyni sy’n fwy tebygol o sefydlu’n dda.
Dylunwaith Plannu Rhan 2 – NEWYDD!
Dydd Sadwrn Medi 29ain – 10yb-12yp
Yn dilyn ein cwrs ‘Dylunwaith Plannu i Ddechreuwyr’, bydd y cwrs hwn yn edrych ar gynlluniau plannu, mesur a darlunio graddfa, yn ogystal ag edrych ar elfennau dylunio o fewn yr Ardd a thrafod sut y gellid gweithredu’r rhain mewn gardd eich hun. Er mwyn cael y mwyaf allan o’r cwrs hwn, byddai’n ddefnyddiol, er nad yw’n hanfodol, i fynychu’r cwrs ar gyfer dechreuwyr.
Planhigion Rhagorol yr Ardd: Planhigion Lluosflwydd – NEWYDD!
Dydd Llun Hydref 15fed / Dydd Sadwrn Hydref 20fed – 10yb-2yp
Mae gan ganolfannau garddio a meithrinfeydd gyfoeth o blanhigion o bob lliw a siâp. Gall dod o hyd i’r planhigion gorau i’ch gardd fod yn dasg frawychus. Nod y cwrs hwn yw dathlu’r amrywiaeth o blanhigion lluosflwydd sydd ar gael ar y farchnad a thynnu sylw at rai o hoff flodau’r Curadur. Bydd canllaw syml i ddod o hyd i’r planhigion lluosflwydd gorau ar gyfer eich gwely neu bot blodau yn cael ei gynnwys a bydd y cwrs yn dod i ben gydag ymweliad â meithrinfeydd yr Ardd.
Cyrsiau uchod yn £40 yr un (£36 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd)
Rhaid archebu ymlaen llaw – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda.
Cyrsiau Garddwriaeth & Gwyddoniaeth
Deall enwau a theuluoedd planhigion ar gyfer garddwyr
Dydd Iau Gorffennaf 5ed / Dydd Sadwrn Awst 18fed – 10.30yb-3.30yp
Ydych chi wedi drysu gan fyd dirgel enwau planhigion?
Ydych chi am adnabod planhigion yn eich gardd ond yn ansicr ble i ddechrau?
Nod y cwrs hwn yw disgrifio enwau gwyddonol planhigion gardd a’ch helpu chi i adnabod teuluoedd planhigion sy’n cael eu canfod yn gyffredin mewn gerddi’r DU. Mae’n cynnwys taith o deuluoedd planhigion yr Ardd Fotaneg a sesiwn adnabod ymarferol yn ein labordai gwyddoniaeth.
Gwyddoniaeth yn yr Ardd
Dydd Sadwrn 11eg Awst – 10.30yb-3.30yp
Ymunwch â’n Pennaeth Gwyddoniaeth, Dr Natasha de Vere, am daith tu ôl i’r llenni o’r Ardd Fotaneg, gan gynnwys y labordai gwyddoniaeth, meithrinfeydd a herbariwm planhigion.
Cewch fwy o wybodaeth ar waith yr Ardd i arbed planhigion a pheillwyr ledled y byd. Yna, cewch rhoi gynnig arni! Ewch â’ch cotiau labordy, tynnwch DNA o blanhigion a defnyddiwch microsgopau i weld eu byd cudd.
Cyrsiau uchod yn £35 yr un (£32 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd)