
Croeso i gylchlythyr diweddaraf prosiect Tyfu’r Dyfodol, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, tanysgrifiwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Conifferau Cyfareddol – LLEFYDD AR GAEL
Os oedd gennych goeden Nadolig go iawn a hoffech chi ddysgu mwy amdano a’i darddiad, ymunwch â Swyddog Gwyddoniaeth Tyfu’r Dyfodol, Dr Kevin McGinn, ar gyfer cwrs Conifferau Cyfareddol ar Ddydd Iau, Ionawr 24ain neu Ddydd Sadwrn, Chwefror 9fed.
Mae conifferau yn grŵp diddorol o blanhigion, gan gynnwys cedrwydd, pinwydd, hemlog, llarwydd a sbriws.
Yn ystod y cwrs hwn, dysgwch y nodweddion allweddol a ddefnyddir i nodi gwahanol deuluoedd a rhywogaethau conifferaidd, gan hefyd esbonio tarddiad rhai conifferau gardd ‘corachaidd’.
Bydd y cwrs hwn yn dechrau yn ein labordy addysgu, gan symud ymlaen at daith o gonifferau yng nghasgliadau byw’r Ardd. Croeso i ddechreuwyr a’r rheini sydd am wella.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10.30yb-3yp. £35 (£32 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i dudalen Eventbriteyr Ardd os gwelwch yn dda.
Swydd Hyfforddwr/wraig Garddwriaethol
Am ymuno â’n tîm?
Mae prosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i weithio fel Hyfforddwr/wraig Garddwriaethol.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sydd â gwybodaeth dechnegol dda am arddwriaeth, hanes profedig mewn hyfforddi, a diddordeb cryf yn iechyd a lles pobl eraill. Byddwch yn darparu a chyflwyno amrywiaeth o gyrsiau garddwriaethol a deunyddiau dysgu ar gyfer unigolion a grwpiau.
Mae rhuglder mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn ddymunol iawn, ac mae dealltwriaeth o genhadaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac ymrwymiad i’r genhadaeth honno, yn hanfodol.
Y dyddiau cau yw Dydd Gwener 8fed Chwefror 2019. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Ardd.
Calendr y Rhandir Cynaliadwy
Ar Ddydd Iau, Chwefror 7fed, ymunwch â Hyfforddwraig Garddwriaethol Tyfu’r Dyfodol, Susan O’ Brien, am y cwrs diweddaraf yng Nghalendr y Rhandir Cynaliadwy.
Canolbwyntiwch ar hau hadau dan orchudd, labelu a chadw cofnod.
Dysgwch sut i brofi hyfywdra hadau a gosod blychau i datws ddechrau egino. Paratowch flychau hadau a phlygiau ar gyfer hau a dewiswch hadau.
Edrychwch ar y pridd ar eich llain, asesu pryd i weithio arno a thaenu tomwellt.
Mae’n bryd troi’r domen gompost, ei hawyru a gwirio lefelau lleithder ynddi.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-2yp. £33 (£30 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i dudalen Eventbriteyr Ardd os gwelwch yn dda.
Dylunwaith Plannu i Ddechreuwyr
Ar Ddydd Gwener, Chwefror 8fed, ymunwch â’r hyfforddwr garddwriaethol gwadd, Neil Barry, am Gwrs Dylunwaith Plannu i Ddechreuwyr.
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar gynlluniau plannu, mesur a lluniadu wrth raddfa, yn ogystal ag edrych ar elfennau dylunio o fewn yr Ardd a thrafod sut y gellid gweithredu’r rhain yn eich gardd eich hun.
Er mwyn cael y mwyaf allan o’r cwrs hwn, byddai’n ddefnyddiol, er nad yn hanfodol, eich bod wedi mynychu’r cwrs ar gyfer dechreuwyr.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-2yp. £40 (£36 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i dudalen Eventbriteyr Ardd os gwelwch yn dda.
Bydd yna gwrs Dylunwaith Plannu: Camau Nesaf ar Ddydd Sadwrn, Chwefror 16eg.
Creu Blodau Cŵyr Gwenyn: Cennin Pedr
Ar Ddydd Mercher, Chwefror 13eg, ymunwch â Hyfforddwraig Ecosystemau prosiect Tyfu’r Dyfodol, Lynda Christe, am gwrs Creu Blodau Cŵyr Gwenyn.
Dysgwch am strwythur ac anatomeg y cennin Pedr a nodweddion cŵyr gwenyn ar gyfer modelu.
Ail-grëwch flodau eich hun gan ddefnyddio cŵyr gwenyn i fynd adref.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10.30yb-2.30yp. £45 (£41 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk.
Blodau’r Gwanwyn
Ar Ddydd Iau, Chwefror 14eg, ymunwch â Hyfforddwraig Garddwriaethol Tyfu’r Dyfodol, Susan O’ Brien, am gwrs Blodau’r Gwanwyn.
Crëwch gynllun gyda chlystyrau o liw a diddordeb tymhorol i’ch tywys drwy’r misoedd gwanwyn a dechrau’r haf.
Dysgwch sut i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd lle bach a gwella’ch dyluniad yn rhwydd.
Ystyriwch risiau a mynedfeydd, ffenestri a muriau, pamau a ffiniau, plotiau a photiau. Dewiswch eich steil a chymryd awgrymiadau ar gyfer plannu a phlanhigion.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-1yp. £30 (£27 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i dudalen Eventbriteyr Ardd os gwelwch yn dda.
Dylunwaith Plannu: Camau Nesaf
Ar Ddydd Sadwrn, Chwefror 16eg, ymunwch â’r hyfforddwr garddwriaethol gwadd, Neil Barry, am gwrs Dylunwaith Plannu: Camau Nesaf.
Yn dilyn ein cwrs ‘Dylunwaith Plannu i Ddechreuwyr’, bydd y cwrs hwn yn edrych ar gynlluniau plannu, mesur a darlunio graddfa, yn ogystal ag edrych ar elfennau dylunio o fewn yr Ardd a thrafod sut y gellid gweithredu’r rhain mewn gardd eich hun.
Er mwyn cael y mwyaf allan o’r cwrs hwn, byddai’n ddefnyddiol, er nad yw’n hanfodol, i fynychu’r cwrs ar gyfer dechreuwyr.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-2yp. £40 (£36 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk.
Cosmetigau’r Ardd Wenyn
Ar Ddydd Mercher, Chwefror 20fed, ymunwch â Hyfforddwraig Ecosystemau prosiect Tyfu’r Dyfodol, Lynda Christe, am gwrs Cosmetigau’r Ardd Wenyn.
Gwnewch gynhyrchion i fynd adref yn cynnwys balm gwefus, menyn corff a hufen i’r wyneb.
Dysgwch am gynhyrchion y cwch sydd wedi eu creu gan y gwenyn mêl, priodweddau’r cŵyr gwenyn a mêl a’u defnydd mewn cynhyrchion harddwch.
Dysgwch yr egwyddorion o greu sebon gydag arddangosiad ar wneud sebon mêl.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 11yb-2yp. £45 (£41 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i dudalen Eventbriteyr Ardd os gwelwch yn dda.
Llysiau’r Wyddor
Ar Ddydd Iau, Chwefror 21ain, ymunwch â Hyfforddwraig Garddwriaethol prosiect Tyfu’r Dyfodol, Susan O’ Brien, am gwrs Llysiau’r Wyddor.
Ysgrifennwch eich ryseitiau ar gyfer y plotiau llysiau a chrewch eich bwydlen calendr hau a thyfu.
Adnabyddwch gnydau sengl ac aml gnydau a gweld ble i’w gosod yn eich cynllun. Ewch ati i ymarfer hau yn y polytwnnel a phlannu tu allan.
Ychwanegwch flas i’ch plot gyda pherlysiau. Nodwch flodau unflwydd a blodau lluosflwydd a dysgwch sut mae tyfu o hedyn a phlanhigion plwg.
Gorffennwch y diwrnod gydag ymweliad â’r abwydfeydd aflonydd a gweld pa mor hawdd yw gwneud bwyd i’r ardd o wastraff cegin.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-2yp. £33 (£30 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i dudalen Eventbriteyr Ardd os gwelwch yn dda.
Gardd Dŵr
Ar Ddydd Iau, Chwefror 28ain, ymunwch â Hyfforddwraig Garddwriaethol prosiect Tyfu’r Dyfodol, Susan O’ Brien, am gwrs Gardd Dŵr.
Dewch ag elfen fyfyriol a phleserus i’ch lle gydag ymagwedd ddiymdrech a dull cynaliadwy.
Dysgwch sut i greu gardd ddŵr mewn hen gynhwysydd sy’n addas i’w ail-ddefnyddio. Nodwch offer a deunyddiau ar gyfer y dasg a pharatowch i’w hadeiladu.
Dilynwch ganllaw syml i ddewis planhigion ac ymarfer plannu i drefnu cynllun.
Ewch â syniadau i ffwrdd gyda chi i gynnal pwll iach ar gyfer ymwelwyr bywyd gwyllt.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-1yp. £30 (£27 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) – am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ewch i dudalen Eventbriteyr Ardd os gwelwch yn dda.