Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystyried bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yma ac mae’n cael ei werthfawrogi.
Fel un o’r gerddi yr ymwelir â hi fwyaf yn y DU, mae gan yr Ardd enw da am yr awyrgylch gyfeillgar a’n ffordd ni o drin ymwelwyr. Rydym yn gwir werthfawrogi cyfraniad ein gwirfoddolwyr ac yn eu hystyried ymhlith ein llysgenhadon pwysicaf, p’un ai ar y safle neu ble bynnag yr ânt yn y byd, gan gyfrannu at ddatblygiad ein henw da a’i hyrwyddo.
Pam rydym angen gwirfoddolwyr a pham rydym yn eu cefnogi
Mae’r Ardd yn cydnabod fod gweithgarwch y gwirfoddolwyr yn rym positif pwysig wrth godi proffil y sefydliad a chryfhau’r gefnogaeth yn y gymuned. Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o guriad calon yr Ardd ac maent ymhlith ei llysgenhadon. Gall gwirfoddolwyr ddod â sgiliau ychwanegol arbennig neu brofiadau sy’n ychwanegu dimensiwn i fywyd yr Ardd. Maent hefyd yn help i glymu’r Ardd yn dynn wrth y gymuned ehangach – cymuned lle a chymuned pobl. Caiff ei gydnabod fod ymwneud ag amrywiaeth eang o safbwyntiau yn dod â gwerth ychwanegol i sefydliadau.
Fel gyda llawer o elusennau yn y DU, mae adnoddau’r Ardd yn gyfyngedig. Felly, er mwyn galluogi’r Ardd i gwrdd â’i hamcanion mae wedi datblygu partneriaeth staff/gwirfoddolwr sy’n hanfodol, yn gytbwys, yn effeithiol ac yn gyd-fuddiol. Mae hyn yn seiliedig ar yr egwyddor fod staff yr Ardd yn darparu’r strwythur, trefniadaeth, cyfeiriad a rheolaeth ddyddiol, tra bo gwirfoddolwyr yn ychwanegu gwerth at waith yr Ardd trwy ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau, gan roi eu hamser, dangos hyblygrwydd, a rhannu profiad a sgiliau arbenigol. Felly o fewn y fframwaith hwn, mae gwirfoddoli yn weithgaredd gwerthchweil a hanfodol ac yn un y mae’r Ardd yn ei chefnogi a’i hyrwyddo.
Gwirfoddoli yn yr Ardd Fotaneg
Ydych chi’n hoff o fod yn yr awyr agored, a heb ots fod yn fwdlyd na’n wlyb? Ydych chi’n hapus i gael eich dwylo’n frwnt? Hoffech chi gynorthwyo gyda gwaith cadwraeth gardd ac elusen sy’n adnabyddus yn rhyngwladol?
Os gwnaethoch chi ateb ‘ydw’ i’r uchod, yna efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gwybod ein bod yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu ein Tîm Ystadau yn yr ardaloedd canlynol sy’n ffurfio Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: y brif ardd, Coedfa a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Yn ddelfrydol, byddwch yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm, ar gael i wirfoddoli ar ddydd Mercher a dydd Iau, yn meddu ar rai sgiliau garddwriaeth/ystâd sylfaenol (ond nid yw’r rhain yn hanfodol) ac yn hapus i ddysgu sgiliau newydd yn ogystal â brwdfrydedd dros bobl a chadwraeth!
Mae rhai o’r gweithgareddau y bydd gofyn i chi gynorthwyo gydag yn cynnwys:
Gosod tomwellt o gwmpas coed, tocio lluniol, cynorthwyo gyda chofnodi iechyd coed, gwirio labeli coed, tacluso ymylon llwybrau, symud amddiffyniad rhag cwningod, dwrhau coed, clirio llwyni mieri, cadw llwybrau’n daclus, plannu bylbiau, cael gwared â ffromlys chwarennog, plannu llwyni, ffensio/trwsio gatiau a chynorthwyo gyda rhoi siarcol mewn bagiau.
Caiff hyfforddiant llawn ei ddarparu. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cwrs cyflwyno Iechyd a Diogelwch ayyb. Rhaid i ddarpar wirfoddolwyr fod dros 18 mlwydd oed.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â jane.down@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda.