20 Gorff 2013

Gerddi Mawrion Gorllewin Cymru: saith o erddi syfrdanol

Bruce Langridge

Mae saith o erddi syfrdanol o hyfryd Gorllewin Cymru wedi dod at ei gilydd i hyrwyddo eu gerddi gwych i ymwelwyr.

Mae prydferthwch eithriadol, hanes a golygfeydd arfordirol trawiadol Gorllewin Cymru yn hysbys yn barod i lawer.   Mae Gerddi Mawrion Gorllewin Cymru nawr yn cynnig mynediad breintiedig i erddi a chasgliadau o blanhigion sy’n enwog yn rhyngwladol, ac a leolir yn y gornel hyfryd hon o’r byd. Mae’r gerddi hyn ymhlith trysorau mwyaf Gorllewin Cymru.

Mae hinsawdd tymherus yr ardal yn annog tyfiant nifer o goed a phlanhigion prin ac ecsotig sy’n hanu o leoliadau ar draws y byd, ac sy’n arddangos lliwiau ysblennydd, peraroglau hudolus, a golygfeydd syfrdanol. Mae pob un o’r saith o erddi hynod hyn wedi’u lleoli mewn mannau prydferth, gyda chasgliadau rhyfeddol o blanhigion a choed.

Mae nhw’n cynrychioli amrywiaeth o fathau, o’r modern i’r hanesyddol, o’r coedwigol i’r arfordirol.  Maen nhw’n cyfannu ei gilydd yn berffaith, yn ôl math ac yn ôl y ffyrdd y maen nhw’n newid gyda’r tymhorau. Dyma’r gerddi – Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gerddi Aberglasne, Gerddi Castell Upton,  Gerddi Cae Hir, Gerddi Castell Pictwn, Gardd Dyffryn Fernant a Gardd Goetir Colby.

Bydd pob gardd yn cynnig gostyngiad deniadol neu gynnig arbennig i ymwelwyr sy’n cyflwyno taflen/pasbort GMGC, y gellir eu cael ar draws yr ardal, ac wrth gwrs yn y gerddi eu hunain. Rhaid i ymwelwyr gyflwyno eu taflen/pasbort yn unrhyw un o’r ‘Gerddi Mawrion’ er mwyn eu stampio fel prawf o fynediad.

Codir y tâl mynediad arferol arnynt ar eu hymweliad cyntaf, wedyn bydd eu taflen/pasbort a stampiwyd yn eu cymhwyso, ynghyd â dau ffrind neu aelod o’u teulu, i ostyngiadau a chynigion eraill ym mhob un o ‘Erddi Mawrion Gorllewin Cymru’ hyd at ddiwedd eleni. Mwynhewch Natur yn ei holl ogoniant drwy ymweld â’r 7 Bendigedig o ‘Erddi Mawrion Gorllewin Cymru’.

[nggallery id=393]

GWYBODAETH PELLACH Ffurfiwyd Gerddi Mawrion Gorllewin Cymru er mwyn codi proffil gerddi yng Ngorllewin Cymru ar y cyd, ac, yn ei dro, ychwanegu mwy o werth at yr economi leol. Mae cyllid ar y cyd o bob un o Erddi Mawrion Gorllewin Cymru wedi cael ei ddefnyddio i greu eu menter marchnata cyntaf gyda’i gilydd, a thaflen cyfun a lansiwyd yn Ebrill 2013.

Mae prosiectau marchnata ar y cyd eraill a fwriadwyd yn cynnwys perthynas â’r cyhoedd, brandio, gwefan a digwyddiadau. Lansir Gerddi Mawrion Gorllewin Cymru yn swyddogol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Mercher, Gorffennaf 17 am 11.30yb. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dai Evans ar 01437 751326.