Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Penwythnos i Chi a’r Ci
Ar y 6ed a 7fed o fis Mai, gall ymwelwyr i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol dod a’u cŵn gyda nhw am ymweliad.
Gwnewch ddiwrnod ohoni a dewch â’ch ffrind gorau am ymweliad i fwynhau erwau’r Ardd.
A pheidiwch ag anghofio, mae POB Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd, felly gallwch dod â’ch ci am ymweliad ar yr 8fed, 15fed, 22ain and 29ain o fis Mai!
Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma. Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.
Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.
Ffair Blanhigion Flynyddol
Cofiwch am fargeinion llewyrchus y gwerthiant blynyddol o blanhigion yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd cannoedd o blanhigion, a roddwyd gan staff, gwirfoddolwyr, aelodau a chyhoedd yr Ardd, ar werth yn ystod y dau ddiwrnod o godi arian ar Ddydd Gwener a Dydd Sadwrn, Mai 12 a 13.
Mae amser o hyd i roi planhigion i’r gwerthiant – am fanylion am sut i wneud hynny, ffoniwch Jane Down ar 01558 667118 – ond, yn bennaf, dylech fod yn meddwl am glirio lle yn eich gardd/iard gefn am y toreth o fargeinion blodeuol sydd i ddod.
Tocyn Dychwelyd yr Ardd
MAE’N TOCYN DYCHWELYD YMA ETO!
Mae ein ‘tocyn dychwelyd’ arbennig sy’n caniatáu mynediad am ddim am wythnos, yn ôl y flwyddyn hon, mewn pryd ar gyfer gwyliau’r Pasg!
Felly, bydd unrhyw un sy’n prynu tocyn i’r Ardd nawr hyd at Ragfyr 31ain 2017 yn cael ei ganiatáu i ddod nôl i’r Ardd AM DDIM am saith diwrnod ar ôl eu hymweliad – a gymaint o weithiau ag y dymunwch!
Clwb Archeolegwyr Ifainc
Yn ogystal â bod yn Benwythnos i Chi a’r Ci’r penwythnos hwn, bydd hi hefyd yn amser am sesiwn arall o Glwb Archeolegwyr Ifainc yr Ardd ar Ddydd Sadwrn y 6ed o Fai.
Y gwanwyn hwn, bydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal clwb newydd cyffrous lle gall pobl ifanc ddysgu popeth am archaeoleg.
Mae cyfarfodydd yn digwydd rhwng 10yb a 12 canol dydd ar y Dydd Sadwrn cyntaf o bob mis, ac yn addas i bobl rhwng 8-16 mlwydd oed.
Yn sesiynau yn y dyfodol rydym yn bwriadu gwneud rhywfaint o gloddio, yn mynd ar dripiau i weld safleoedd archaeolegol eraill, ac archwilio pop math o bethau y mae archeolegwyr yn darganfod. O fymïaid yr Aifft i gylchoedd cerrig, coginio hynafol i gestyll, mae hi’n dweud bod archeoleg yn ymwneud â phopeth ac mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.
Mae’r clwb yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac os ydych yn hŷn na 16 oed ac yn dymuno cymryd rhan byddem yn falch o glywed gennych!
Diwrnod Dathlu Pythefnos Maethu
Bydd yna ddiwrnod o hwyl a sbri arbennig ar Ddydd Sadwrn 13eg o Fai, a drenfir gan dîm maethu Sir Gâr i ddathlu gwaith rhieni maeth a’r plant yn eu gofal.
Bydd yn cynnwys gweithgareddau hwyliog i bawb yn y Tŷ Gwydr Mawr.
Mercher Mwdlyd
Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!
Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy, mae yna dâl mynediad arferol i oedolion ac mae plant o dan 5 mlwydd oed am ddim.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150