Y Rhodfa

Adnabyddir yr heol 220m o hyd sy’n rhannu’r Ardd yn ddwy fel y Rhodfa

Dyma lle ceir un o’r borderi blodau hwyaf ym Mhrydain, ac o’r gwanwyn i’r gaeaf, gwelir ‘asgwrn cefn’ yr Ardd yn fôr o liw.

Mae e’n dechrau wrth y Porthdy, yn pasio heibio i’r cerflun dŵr a elwir yn Scaladaqua Tonda, wedyn Cylch Edward Llwyd, ffynnon a ffurfiwyd fel trawsdoriad o amonit, ac yn arwain at y pwll prydferth ry’n ni’n ei alw’r Pwll Drych.  Mae hwn yn bwydo dŵr i lawr i’r Ffrwd, nant fach sy’n ymdroelli lawr y Rhodfa, y mae ei chwrs a’i siâp wedi’u hysbrydoli gan Afon Tywi gerllaw.

Ar hyd ochr ddwyreiniol y Rhodfa, fe ddewch chi ar draws Craig yr Oesoedd, arddangosfa ddaearegol sy’n rhychwantu 300 miliwn o flynyddoedd yn hanes Cymru.