Coed y Tylwyth Teg

Mae’r goedwig hudolus hon yn gartref i ryfeddodau naturiol a dynol.

Mae ffawydd ac oestrwydd aeddfed yn ymgodi uwchben carped o flodau coetir megis clychau’r gog a blodau’r gwynt yn y gwanwyn. Yn yr hydref, mae amrywiaeth syfrdanol o ffyngau yn britho’r ddaear a phentyrrau o bren pydredig. Maent yn amrywio o gapiau llaeth blas tsili poeth Lactarius spp., i ffyngau nyth aderyn rhyfeddol Cyathus striatus, i dagellau brau lliwgar Russula spp., a phigau draenog y coed Hydnum repandum.

Yn ystod taith dywys ar ffyngau beth amser yn ôl, trodd y sgwrs at gylchoedd tylwyth teg a chwedlau Cymreig. Ychydig yn ddiweddarach, fel pe bai trwy hud, ymddangosodd y tai tylwyth teg cyntaf (diolch Les). Erbyn heddiw, mae gennym bentref tylwyth teg, ac anogir ymwelwyr iau i adael neges yn y blwch post tylwyth teg, neges sy’n dweud wrth y tylwyth teg, efallai, beth y maent yn gwirioni arno yn y goedwig wych hon.