Sgwâr y Mileniwm

Mae Sgwâr y Mileniwm ar ffurf siâp amffitheatr naturiol sy’n ei wneud yn llwyfan delfrydol ar gyfer perfformio

Caiff cyngherddau a chynyrchiadau theatr a dawns eu llwyfannu fan hyn yn yr awyr agored, yn ogystal â ralïau ceir a stondinau yn ystod digwyddiadau mawr. Ar gyfer dathliad neu ddigwyddiad o bwys, mae Sgwâr y Mileniwn yn ddewis perffaith fel canolbwynt.

Mae’r ardal wedi’i thirlunio’n ofalus i greu naws heddychlon ac ymlaciol, gan ei wneud yn lle poblogaidd ar gyfer picnic. Gyda siop a chaffi gerllaw, mae’n lle hwylus i deuluoedd ddod ynghyd.