Safle Neuadd Middleton

Safai un o blastai godidocaf y cyfnod Rhaglywiaethol ar y safle hwn

Wedi’i hadeiladu rhwng 1793 a 1795, cynlluniwyd Neuadd Middleton gan Samuel Pepys Cockerell, a’i hariannu gan y perchennog, William Paxton.

Plasty mawr o gynllun neo-glasurol ydoedd, wedi’i adeiladu o friciau a stwco, gyda phortico mawr Ïonaidd.

Llosgodd y Tŷ i’r llawr ym 1931 a chafodd ei ddymchwel.

Gallwch gael syniad o faint a chynllun y Neuadd ar y safle.  Yr oedd yn rhyw dair gwaith maint ei llety i weision (sef Tŷ Melyn heddiw, adeilad trawiadol ynddo’i hun). Gallwch hefyd weld sut y trefnwyd y stafelloedd o gynllun y llawr a osodwyd yn y tir.

O’r fan hon cewch olwg fendigedig ar Ddyffryn Tywi a Thŵr Paxton, ffug-gastell a adeiladodd William Paxton er clod i’r Arglwydd Nelson. Nid yw’r Tŵr yn rhan o’r Ardd ond dim ond pum munud o daith mewn car yw’r safle honno, a cheir maes parcio yno hefyd. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gyfrifol amdano.