Pyllau Chwilota

Mae gennym 3 phwll chwilota lle y gallwch ddod i ddysgu am fywyd dŵr croyw

Mae madfallod dŵr, sglefrynnod a chwilod dŵr yn rhannu’r cynefin hwn gyda chreaduriaid microsgopig rhyfedd eraill. Mae larfâu mileinig gwas y neidr yn llechu yn y dyfnderoedd tywyll a lleidiog gan obeithio gwledda ar benbyliaid, malwod a chorynnod dŵr.

Hoffech chi ddod i edrych ar y creaduriaid hyn?

Mewn rhai gwyliau ysgol, ry’n ni’n cynnal sesiynau Chwilota mewn Pyllau i deuluoedd, sy’n defnyddio rhwydi, hambyrddau a microsgopau. Edrychwch ar ein gwefan Digwyddiadau ar gyfer dyddiadau ac amserau. Mae llefydd yn gyfyngedig, a rhaid ichi logi’ch lle wrth y fynediad yn y Porthdy.

Ry’n ni hefyd yn cynnig rhaglenni o chwilota mewn pyllau i blant ysgolion cynradd a’r Cyfnod Sylfaen.

Mae’n flin gennym – peidiwch â chwilota mewn pyllau ar eich pen eich hun. Ry’n ni’n rheoli’r pyllau hyn yn ofalus, er mwyn gwarchod eu bioamrywiaeth a chyfyngu ar daenu clefydau