Llwyfan Perfformio

Mae ein Llwyfan Berfformio yn lle ardderchog i wrando ar gerddoriaeth, gweld drama, neu ymuno â gweithgareddau teuluol
Mae e hefyd yn esiampl dda o ddatblygu cynaliadwy. Fe’i gwnaethpwyd o ddeunyddiau Cymreig a thechnegau adeiladu traddodiadol Cymreig, a’i gynllunio a’i adeiladu gan bobl ifanc yn bennaf.
- Prif ddeunydd y llawr a wynebau’r grisiau: Maen Pennant, o chwarel lleol y Gwrhyd, a brynwyd yn ddiweddar gan Marshalls.
- Camau’r grisiau: carreg a adferwyd, Pennant, mae’n debyg, o adeiladau a ddymchwelwyd yn nhiroedd yr Ardd. Efallai y daeth rhai ohonynt o’r Neuadd Middleton gwreiddiol.
- Sylfeini Carreg: o chwareli’r Mynydd Du – wedi’u torri a’u cludo gan GJ Williams Cyf..
- Pren: derw gwyrdd, a gyflenwyd gan Bren Caled Lôn Isaf, Gŵyr; Coed Dinefwr – cwmni cynllunio ac adeiladu mewn pren, Caerfyrddin, a gyflenwodd hefyd y Ffynidwydden Douglas; a Melin Lifio Whiney, Whiney-ar-Wy, Henffordd. Daw’r coed o amrywiaeth o leoliadau yn ne/canolbarth Cymru, gan gynnwys: Coed Hendre, Rockfield, Trefynwy.
- Daw’r llechi o chwareli yng Nghymru.
Pwy adeiladodd y llwyfan?
Adeiladwyd y rhan fwyaf gan fyfyrwyr o Goleg Sir Gâr ac oddi ar Gynllun Prentisio Adeiladu Crefft Tywysog Cymru – masiyniaid ifainc, gosodwyr brics, towyr, a seiri coed. Gwaith gof ifanc yw’r pînafal ar y pen.
Pwy gynlluniodd y llwyfan?
Daeth dau ddeg saith o fyfyrwyr i Dde Cymru i Ysgol Haf 2010 Amgylchedd Adeiledig Sefydliad Tywysog Cymru, a hynny o Ewrop, Affrica, De Asia a Gogledd America. Treulion nhw bythefnos gyda’i gilydd yn dysgu arferion adeiladu cynaliadwy, pensaernïaeth Cymreig a thechnegau adeiladu traddodiadol.
Daethant wedyn i’r Ardd Fotaneg am wythnos, a chynhyrchu cynlluniau ar gyfer naw gwahanol adeilad arfaethedig yma. Dewiswyd y llwyfan berfformio fel y gorau o’r cynlluniau hyn gan grŵp o staff yr Ardd, gwirfoddolwyr, myfyrwyr a goruchwylwyr Sefydliad y Tywysog, ac aelodau o’r gymuned leol.