Mae’r Labordy Dŵr yn lle i ddysgu.
Yn sefyll ar bileri wrth ymyl Pwll yr Ardd, mae adeilad o bren. Yn llawn microsgopau a chymhorthion astudio, dyma’r Labordy Dŵr
Mae plant ysgol yn cael y cyfle yno i archwilio trysorfa o ryfeddodau natur.
- Mae cyrsiau dydd a nosweithiol yn dod ag oedolion i fewn er mwyn gwneud, adnabod a darganfod pethau.
- Mae athrawon yn dod yma i ddysgu sut i addysgu yn yr awyr agored.
- Mae teuluoedd yn cael hwyl wrth wneud pethau rhyfeddol gyda phlanhigion yn ystod gwyliau’r ysgol.
Tîm Addysg yr Ardd sy’n rheoli’r Labordy Dŵr. Os hoffech chi ddarganfod mwy am y cyrsiau, gweithgareddau a’r rhaglenni ry’n ni’n eu cynnig, edrychwch ar ein tudalennau Dysgu.
Wedi’i gynllunio gan fyfyrwyr Ysgol Bensaernïaeth Caerdydd.