Gardd Wenyn

Yn gartref i tua hanner miliwn o wenyn mêl, mae ein Gardd Wenyn yn ferw o weithgaredd dros y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Gan sefyll yn ddiogel y tu ôl i ffenestri mawrion, gallwch fynd yn agos at wenyn mêl a’u cychod. Gallwch hefyd wylio ffilm fer am fywyd yn y cychod gwenyn, a gwrando ar straeon am ein gwenyn, gwenynyddiaeth, a’r gwaith ymchwil a wneir gan wyddonwyr yr Ardd ar y mêl a gynhyrchir gan ein gwenyn.

Byddwn hefyd yn eich helpu chi i benderfynu pa blanhigion i’w tyfu yn eich gardd, er mwyn denu peillwyr, drwy gynnig Llwybr Peillio i’w ddilyn. Casglwch daflen o’r Ardd Wenyn neu o unrhyw un o’r modelau o gychod gwenyn sydd wedi’u lleoli o gwmpas ein Gardd Ddeu-fur.