Diogelu Planhigion Cymru

Mae’r arddangosfa hon o blanhigion brodorol Cymreig rhyw 5 munud o daith gerdded o’r Bloc Stablau

Mae’r planhigion hyn yn dod o tri Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cymru ac un Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig:

  • Cwm Idwal yn Eryri
  • gwarchodfa natur Maes y Facrell ar y Gogarth Fawr ar arfordir gogleddol Cymru
  • Cynffig ger Port Talbot ar arfordir deheuol Cymru
  • Yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Bryniau Breidden, Trallwm mae rhai o rywogaethau prinnaf Cymru i’w gweld
Breidden Display Bed, Conserving Welsh Plants

Mae’r arddangosfa hynod o ddiddorol hon yn dangos sut y mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ynghyd â chadwriaethwyr ledled Cymru, yn gweithredu i gadw planhigion gwyllt Cymreig sydd dan fygythiad.

Gyda garddwriaethwyr yr Ardd, mae ein gwyddonwyr hefyd wedi tyfu ac astudio nifer o’r planhigion hyn. Yn hytrach na bod y gwaith hwn yn anweledig ac felly ddim yn cael ei werthfawrogi, penderfynwyd arddangos rhai o’r planhigion prydferth hyn, llawer ohonynt yn rhai delicet a thlws.

Mae llyfryn maint poced am yr arddangosfa hon, a elwir Diogelu Planhigion Cymru, ar gael o’r pwynt gwybodaeth yn y Tŷ Gwydr Mawr.