Craig yr Oesoedd – Hanes Creigiau Cymru

Mae hanes creigiau Cymru gyda’r mwyaf diddorol yn y byd.

Cerrig Ateb

Mae’r creigiau ar hyd Y Rhodfa yn llawn cliwiau, hanes creigiau Cymru. Craffwch arnynt ac fe gewch hyd i dystiolaeth am ynysoedd folcanig, difodiant anifeiliaid, newidiadau hinsoddol dramatig, ac ymddangosiad a boddiad cyfandiroedd.

Wrth droedio’r llwybr byddwch yn olrhain hanes daearegol Cymru dros 300 miliwn a mwy o flynyddoedd.

Planhigion y Creigiau

Byddwch yn darganfod hefyd sut mae daeareg wedi cael dylanwad mawr ar blanhigion Cymru. Mae dros 75 o wahanol rywogaethau o gennau yn tyfu ar y creigiau hyn. Ynghyd â mwsoglau, y tywydd a dŵr, mae cennau yn helpu i ddarnio’r creigiau a’u troi yn bridd.

 

Creigiau Cymru

Mae Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad ein dealltwriaeth o ddaeareg. Cafodd y cyfnod Cambriaidd ei enwi wedi i Adam Sedgwick, un o sylfaenwyr daeareg fodern, astudio rhai o greigiau Cymru, tra bod y cyfnodau Ordofigaidd a Silwraidd wedi’u henwi ar ôl dau o lwythau hynafol y wlad.

Mae daeareg hefyd wedi esgor ar gyfnodau ffyniannus yn hanes Cymru – mae aur, copr, glo, llechfaen a thywodfaen y wlad wedi cael eu cloddio a’u mwyngloddio ar raddfa fawr.

Yn ymyl arddangosfa ddaearegol Craig yr Oesoedd y mae Cylch Iacháu y Garreg Las gan Darren Yeadon, a luniwyd o’r un garreg las o’r Preseli â’r garreg las sydd yng nghylch mewnol Côr y Cewri yn Wiltshire.