Cadw er mwyn ein Dyfodol
Mae’r ardal ar y thema Cadw er mwyn ein Dyfodol yn dangos ymrwymiad yr Ardd i ddyfodol cynaliadwy
Gallwch weld nifer o arddangosiadau yma, ble ry’n ni’n dangos i chi sut ry’n ni’n lleihau faint o adnoddau naturiol ry’n ni’n eu defnyddio, a sut y gallwn ni helpu cynnal bioamrywiaeth yng Nghymru.
· Cadwraeth Planhigion Cymreig – arddangosfeydd o blanhigion o 4 o warchodfeydd natur cenedlaethol Cymru
· Cerddin Cymreig – casgliad o fathau prin o deulu’r Sorbus sydd o dan fygythiad
· Y Peiriant Byw – pwll lle gallwn ailgylchu gwastraff dŵr
· Boeler Biomás – ffwrn sy’n llosgi coed er mwyn gwresogi’n hadeiladau
· Canolfan Tyfu – stafelloedd dosbarth lle y gallwch ddysgu sut i dyfu ffrwythau a llysiau
Er na all ymwelwyr fynd iddo, mae gennym hefyd gae y tu ôl i’r arddangosfeydd lle ry’n ni’n cynhyrchu trydan o baneli solar, ac mewn cae cyfagos, ry’n ni’n creu golosg o bren a ddaw o goed ry’n ni’n eu rheoli ar y safle.