Canolfan Wyddoniaeth

Mae’r Ganolfan Wyddoniaeth ac Ymchwil yn edrych allan dros yr Ardd

Mewn dyluniad cyfoes sy’n cydweddu â’r Tŷ Gwydr Mawr syfrdanol a’r Porthdy, y ddau wedi’u  dylunio gan yr Arglwydd Foster a’i Bartneriaid, mae’r Ganolfan Wyddoniaeth â golygfeydd ysblennydd o’r Ardd gyfan, yn bennaf o falconi’r llawr cyntaf.

Yn y Ganolfan Wyddoniaeth mae labordai lle mae gwyddonwyr yr Ardd wedi sicrhau mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i greu côd-bar DNA i’w holl blanhigion blodeuol a chonifferau.

Yn y Ganolfan Wyddoniaeth mae swyddfeydd tîm gwyddonol yr Ardd, ein llysieufa, a’n llyfrgell ac archif.

Nid yw’r Ganolfan Wyddonol ar agor i ymwelwyr, ar wahân i ddigwyddiadau arbennig.