Boeler Biomás

Mae boeler biomás yr Ardd yn helpu gwresogi’r Tŷ Gwydr Mawr, y swyddfeydd, y siopau a’r cyfleusterau arlwyo

Mae e ar hyn o bryd yn llosgi gwastraff ffatrïoedd ar ffurf sglodion a naddion, a fyddai fel arfer yn cael eu hanfon i safle claddu sbwriel oni bai am y defnydd hwn ohonynt.

Mae’r defnydd o fiomás mewn systemau gwresogi yn llesol am ei fod yn defnyddio deunydd gwastraff o amaethyddiaeth, coedwigaeth, diwydiant ac o ardaloedd trefol i greu trydan a gwres gyda llai o effaith ar yr amgylchedd na thanwydd ffosil. Cymharol fychan yw effaith tymor-hir y math hwn o gynhyrchu egni ar yr amgylchedd gan fod y carbon yn y biomás yn rhan o gylchred naturiol carbon; nid yw hynny’n wir am y carbon mewn tanwydd ffosil.