Helo, shwmae? Steffan ydw i a fi yw’r Cynorthwyydd Marchnata yma yn yr Ardd.
Yn ddiweddar, fe wnes i brynu hen gamera ffilm gan fy mod wedi cael diddordeb yn ffotograffiaeth amatur ers blynyddoedd erbyn hyn, a pha le gwell i roi cynnig arno nag yma, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol brydferth!?
Mae dal gen i lawer i’w ddysgu, ond dyma rhai enghreifftiau o’r lluniau fe wnes i gymryd o gwmpas yr Ardd dros yr wythnosau diwethaf.