Blogiau'r Ardd

Uchafbwyntiau Blodau Gwylltion – Effros

gan

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yn fferm organig sy’n gweithio ac sy’n ffisegol yn rhan o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – mae hi lai na 5 munud o gerdded o’r Tŷ Gwydr Mawr. Ynddi mae dolydd yn llawn blodau gwylltion prin sydd mewn perygl ac sydd wedi cyrraedd yn naturiol oherwydd y ffordd rydym yn ffermio – yn bennaf drwy bori a lladd gwair mewn ffordd strategol. Gobeithio y bydd yr hyn rydyn ni’n ei wneud hefyd yn annog eraill i reoli eu tir er mwyn natur.

Yn 2016 gwnaed arbrawf i symud ‘gwair gwyrdd’ newydd ei dorri o ddwy ddôl yn llawn blodau gwylltion (Cae Trawsgoed a Chae Tegeirianau) i ddwy ddôl heb fawr  o rywogaethau (Cae Derwen a Chae’r Waun). Mewn cwta tair blynedd roedd tegeirianau’n tyfu yn y caeau derbyn . Yn 2019 ychwanegwyd ‘gwair gwyrdd’ hefyd ar ddôl arall o wair gan mwyaf, sef Cae Gwair. Rydym yn bwriadu cynaeafu hadau’r blodau gwylltion ar y dolydd hyn yn fuan iawn.

Mae effros yn un o’r blodau gwylltion sydd wedi elwa o’r dull hwn.

 

Euphrasia sp. – Effros

Mae’r planhigyn bach hardd hwn yn helpu cadw ein dolydd yn llawn blodau gwylltion. Mae’r effros yn dwyn dŵr oddi wrth borfeydd gerllaw gan gadw’u niferoedd i lawr a chaniatáu i flodau gwylltion eraill amlhau – lle bydd effros fel rheol bydd nifer o flodau gwylltion eraill.

Pam yr enw effros? Daw‘r enw Cymraeg o’r Lladin euphrasia. Os ydych chi erioed wedi defnyddio diferion i leddfu anhwylder ar eich llygaid, mae’n weddol sicr y bydd effros wedi ei ddefnyddio yn y diferion – gan roi’r enw eyebright yn Saesneg. Mae wedi ei ddefnyddio ers canrifoedd i drin llygaid sy’n goch ac yn llidus. Ond a oedd golwg y blodau wedi dylanwadu ar hyn?

Cymerodd 5-10 mlynedd i’r effros gyrraedd a lledu’n naturiol dros ein gweirgloddiau ar ôl inni ddechrau ffermio Cae Trawsgoed a Chae Tegeirianau fel gweirgloddiau ddechrau’r 2000au. Ond ar ôl inni daenu gwair gwyrdd o’r dolydd hyn ar Gae Derwen a Chae’r Waun yn 2016, rydym wedi gweld yr effros yn ymsefydlu yn y gweirgloddiau newydd lawer yn gynharach ac yn fwy helaeth.

Mae hynny wedi llwyddo cystal fel y byddwn eleni yn casglu hadau’r effros ac yn eu gwerthu ichi os oes gennych ddarn o lawnt neu ddôl lle hoffech annog blodau gwylltion i dyfu.

Dydyn ni ddim wedi gwneud hyn o’r blaen, ac mae’n ymddangos y bydd yn fusnes lletchwith. Mae’r effros yn blanhigyn byr a gallai fod yn anodd iawn ei weld ar ôl i’r blodau hadu. Ond mae gennym lawer o wirfoddolwyr sy’n barod i’n helpu, a byddwn yn ceisio cynaeafu ddiwedd mis Mehefin/dechrau Gorffennaf.

Problem arall yw dyfalu pa fath o effros sydd gennym.

Mae yna 19 o rywogaethau o’r effros yn y Deyrnas Gyfunol ac mae’n anodd iawn gweld y gwahaniaeth rhyngddynt.  Mae’r math o flew sydd ar y coesau a’r dail yn ddefnyddiol i adnabod y cymeriad – gall y blew fod yn fyr neu’n hir, gyda neu heb ddafnau o olew ar y blaen, neu ddim. Ond i wneud pethau’n fwy cymhleth, mae’r rhywogaeth yn aml yn croes-beillio i roi mathau hybrid a all fod yn wahanol o un cae i’r llall. Yn ffodus mae gennym fotanegydd, Dr Kevin McGinn, yn ein tîm Tyfu’r Dyfodol ac mae e’n gyfrifol am geisio’u hadnabod ac anfon samplau i’w gwirio gan arbenigwyr yng Nghymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon.

Roedd papur gwyddonol yn ddiweddar wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan ein Pennaeth Gwyddoniaeth, Dr Natasha De Vere, yn defnyddio effros o Waun Las a mannau eraill ar draws y DG i weld pa mor dda roedd yn helpu adnabod gwahanol rywogaethau o’r effros. Ond hyd yn oed ar lefel feicrosgopig fel hyn mae gwyddonwyr yn ei chael yn anodd. Ond roedd eu gwaith ymchwil yn eu helpu i weld bod y rhywogaethau o’r effros sydd ym Mhrydain heddiw wedi esblygu ar hyd dau lwybr (cytras) gwahanol yn mynd yn ôl dros 8 miliwn o flynyddoedd, a bod effros Prydain i gyd wedi eu coloneiddio o Ewrop yn hytrach nag esblygu ym Mhrydain.

Os hoffech brynu planhigion effros a/neu flodau gwylltion eraill rydym yn eu cynaeafu o Warchodfa Waun Las eleni, cysylltwch â fi ar bruce.langridge@gardenofwales.org.uk ac fe anfonaf y prisiau atoch a phryd byddan nhw ar gael.  Planhigyn blynyddol yw’r effros, felly byddai’n rhaid ei hau eleni, erbyn yr hydref fan pellaf. Yn ddelfrydol dylech dorri eich lawnt neu eich dôl yn gyntaf, mynd â’r toriadau i ffwrdd, ac os yw’n bosibl grafu’r pridd â rhaca/cribin neu oged er mwyn i’r hadau ymsefydlu yn y pridd.