Bagloriaeth Cymru

Mae gennym amrywiaeth o opsiynau i gefnogi gwahanol elfennau o’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru newydd.

Prosiectau Unigol

Mae’r Ardd yn cynnig amrywiaeth o bynciau y gall myfyriwr ar unrhyw lefel eu hastudio ar gyfer adran Prosiect Unigol y cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Gan fod amrywiaeth o brosiectau cyffrous ac arloesol yn digwydd yn yr Ardd drwy’r amser, gallwn gynnig canllaw a phrofiad i chi ar amrywiaeth o bynciau:

  • Cadwraeth planhigion
  • Bioamrywiaeth
  • Ffermio organig
  • Cynaliadwyedd
  • Ffynonellau ynni amgen
  • Ailgysylltu pobl â natur
  • Pwysigrwydd peillwyr
  • Hanes lleol a diwylliant
  • Rôl elusen
  • Eco-atyniadau

Her Dinesydd Byd-Eang – addysgu a dysgu

Trwy weithdai yn yr Ardd, gallwn gefnogi agwedd addysgu a dysgu adran Her Dinesydd Byd-Eang o gymhwyster  Bagloriaeth Cymru.   Gan ganolbwyntio ar Feddwl yn Feirniadol, Datrys Problemau, Creadigrwydd a Newydd-deb, anogir disgyblion i ddechrau datblygu safbwynt bersonol mewn perthynas â phynciau fel:

  • Masnach Deg
  • Ynni’r Dyfodol
  • Byw’n Gynaliadwy
  • Rheoli Gwastraff
  • Cynnyrch Moesegol ac Eco-gyfeillgar
  • Cwsmeriaeth
  • Llygredd

Menter a Chyflogadwyedd – addysgu a dysgu

Ymwelwch ag un o brif atyniadau twristiaeth Cymru er mwyn darganfod pa wasanaethau a chynnyrch ry’n ni’n eu cynnig yma.

Sialens Gymunedol

Gallwch gwblhau eich Sialens Gymunedol yn yr Ardd drwy weithio gyda Phrosiect y Rhaglywiaeth.

Edrychwch ar ein Rhaglenni Cyfnod Allweddol 4 er mwyn darganfod gweithdai a all eich cefnogi ar bynciau fel: Masnach Deg, Bwyd a Milltiroedd Bwyd, Technolegau Gwyrdd, Cynaliadwyedd, a Hamdden a Thwristiaeth.

 

Sut i Archebu Ymweliad yn Ymwneud â Bagloriaeth Cymru

Cysylltwch â Kay yn yr Adran Addysg os gwelwch yn dda er mwyn archebu ymweliad.