
Amcan ein rhaglenni i gyd yw meithrin angerdd am y byd naturiol yn ein hymwelwyr, a brwdfrydedd dros fyw’n gynaliadwy – mae’n rhaglenni wedi’u cynllunio’n arbennig gennym er mwyn cefnogi a gwella unrhyw gwricwlwm. Gall pob un o’n cyrsiau gael eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion eich grŵp.
Rhaglenni’r Cyfnod Sylfaen
Antur Tedwen
Cewch ddarganfod yr hyn sydd ei angen ar anifeiliaid er mwyn byw a goroesi, wrth i chi helpu Tedwen i ddod o hyd i’w ffrindiau o amgylch yr Ardd, tra’n rhoi cyfle i chi ymdeimlo â’r amgylchedd awyr agored
‘Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth
Ry’n ni wedi addasu ein Helfa Arth i’ch galluogi i brofi gweithgareddau mewn amgylchfyd addysgol yn yr awyr agored. Gellwch gefnogi Gwyddoniaeth, edrych ar gynefinoedd, llythrennedd, cael hwyl gyda iaith a stori, Mathemateg, a chwblhau heriau ar hyd y ffordd. Gadewch inni wybod ar beth yn union yr hoffech ganolbwyntio.
Hau Hadau
Cewch ddysgu mwy am hadau a sut mae planhigion yn dechrau tyfu. Bydd cyfle gennych i edrych ar wahanol hadau, i edrych y tu fewn i hedyn, a phlannu hadau i’w meithrin yn ôl yn yr ysgol.
Tymhorau yn yr Ardd
Mae patrymau pwysig i bob un o’r pedwar tymor; dewch i’w profi nhw yma yn yr Ardd. Mae gweithgareddau a gemau yn helpu plant i fwynhau’r hud a lledrith – beth bynnag fo’r tywydd.
Y Gwlyb a’r Rhyfeddol
Cewch brofi dŵr yn ei holl ogoniant, yn ystod diwrnod diogel a chyffrous yn yr Ardd. Cewch archwilio ffynhonnau, rhaeadrau, ffrydiau, pyllau, llynnoedd a cherfluniau dŵr. Fe gewch astudio beth yw natur dŵr, a pham ei fod yn angenrheidiol i fywyd y blaned.
Pastai Mwd, Ffeuau a Phethau Gwingllyd
Trwy gyfrwng stori a chwarae rhan, cewch ddarganfod rhai o’r ffyrdd y mae anifeiliaid bach a mwy yn byw ac yn goroesi yn ein coetiroedd. Byddwch yn gwneud gweoedd a ffeuau, yn chwarae gêm cudd-wisgo, a gwneud anifeiliaid gan ddefnyddio mwd fel clai modelu!
Coetir Rhyfeddol
Cyflwynwch eich dosbarth I ecoleg coed Cymreig drwy archwilio bywyd planhigion a chwrdd â chreaduriaid sy’n gwneud eu cartref yma.
Rhaglenni Tymhorol
Nadolig Gofalgar a Chymwynasgar
Edrych ar bethau byw yn eu cynefin gyda thema dymhorol. Cewch ddysgu sut i helpu’r Robin Goch a’i ffrindiau i oroesi’r gaeaf. Ar gael ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr.
Crefftau’r Nadolig
Dewch i wneud Addurniadau’r Nadolig o ddeunyddiau naturiol, ac fe ddysgwch am darddiad rhai o draddodiadau mwyaf poblogaidd y Nadolig. Ar gael ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr.
Ry’n ni’n hapus i gynnig y rhaglenni hyn beth bynnag fo’r tywydd, ond mae rhai yn gweithio orau yn ystod cyfnodau arbennig o’r flwyddyn. Rhowch alwad inni er mwyn inni roi cyngor i chi wrth gynllunio’ch ymweliad.
Sut i drefnu rhaglen Cyfnod Sylfaen
Cysylltwch â Kay Bailey yn yr Adran Addysg i drefnu ymweliad.