
Bydd prydferthwch yr Ardd ac arwyddocâd byd-eang ein gwaith cadwraethol yn rhoi amgylchedd ysgogol a dilys i ddysgwyr o bob oed a gobeithio y bydd modd iddynt ddehongli’r profiad mewn ffordd greadigol. Gallwch ymweld ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, rhai wedi’u hysbrydoli gan arddangosfeydd Celf, neu deithiau tymhorol sy’n gysylltiedig â’n casgliadau o blanhigion.
Mae’r Ardd, a’r ystâd ehangach, yn cynnig y lle delfrydol ar gyfer grŵp hunan-arweiniol i archwilio amrywiaeth o bynciau, fel:
- Ffotograffiaeth
- Darlunio
- Paentio
- Ysgrifennu barddoniaeth
- Ffermio organig
- Rheoli tirwedd
- Bioamrywiaeth
Mae gennym amrywiaeth o weithgareddau a llwybrau i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’r Ardd, gan gynnwys:
- Llwybr Technolegau Gwyrdd
- Her ‘Gwelaf i â’m Llygaid Bach i’ yn Y Tŷ Gwydr Mawr
- Taflen Weithgaredd ‘Yn Ôl i Natur’
- Helfa Peillwyr
- Llwybr y Cyfnod Rhaglywiaethol
- Llwybrau Coed Tymhorol
Sut i archebu ymweliad Hunan-arweiniol
Cysylltwch â Kay yn yr Adran Addysg i holi am ymweliad neu ei drefnu, os gwelwch yn dda.