
Gallwn ddod â’n gweledigaeth atoch chi, i’r ysgol neu i’r dosbarth. Byddwn yn falch o gael rhannu’r neges am gysylltu pobl â’r amgylchedd naturiol, a dysgu ar gyfer cynaliadwyedd
‘Gwasanaethau’ boreol, Sgyrsiau a Gweithdai
Gallwn gynnig sesiynau rhyngweithiol ar y themâu canlynol:
- Datblygu Cynaliadwy
- Dysgu yn yr awyr agored
- Ailgylchu
- Eich gardd fotaneg
- Pwysigrwydd planhigion
- Sgiliau allweddol Bagloriaeth Cymru
Hyfforddi ac Ymgynghori
Gallwn gynnig cefnogaeth i staff yr ysgol ar:
- Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang
- Dysgu yn yr awyr agored
- Rheoli gardd ysgol
- Datblygu tiroedd ysgolion
Sut i archebu
Cysylltwch â Kay yn yr Adran Addysg os gwelwch yn dda, er mwyn holi neu drefnu ymweliad.