16 Mai 2017

Diwrnod Diddordeb Mewn Planhigion 7: Rhedynen Gyfrdwy

Bruce Langridge

Mae tystiolaeth ffosil yn awgrymu bod Osmunda regalis rhedynen gyfrdwy wedi newid fawr ddim mewn 180 miliwn o flynyddoedd – mae fel edrych ar ffosil byw.

Fe wnaeth esblygu ar yr uwch gyfandir Gondwanaland cyn oedd unrhyw blanhigion blodeuol, gwenyn, morgrug ac adar.  Yn tyfu i fyny i 2.5m o uchder, gallwch ddychmygu dinosoriaid mawr yn gwledda ar ei ddail sydd llawn sudd.

Rydym wedi plannu rhedynen gyfrdwy yn yr Ardd Wallace i helpu i ddangos esblygiad planhigion sydd ddim yn blodeuo.

Mae gennym gerflun hyfryd ar Y Rhodfa wedi’i ysbrydoli gan hirhoedledd y planhigyn anhygoel hwn.

Cafodd ‘Osmunda – Ffosil Byw’ ei gerflunio allan o galchfaen Kilkenny gan Glenn Morris.