Mae gennym ddewis ardderchog o lefydd i fwyta, yfed a siopa yn yr Ardd
Caffi Botanica
O fewn yr Ardd, mae ein Caffi Botanica, a leolir yn y Bloc Stablau, yn lle ardderchog i fwyta pryd twym hyfryd, byrbrydau neu frechdanau. Yma ry’n ni’n amcanu at ddefnyddio bwydydd sydd mor organig a lleol ag sy’n bosibl, gan gynnwys cynnyrch a dyfwyd yn yr Ardd ei hun.
Te Prynhawn
Beth am drin eich hun a ffrind neu roi profiad Te Prynhawn? Mae ein pecyn yn cynnwys mynediad i ddau oedolyn, te prynhawn, a hamper.
Siop Botanica
Hefyd o fewn y Bloc Stablau y mae ein Siop Roddion. Mae hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o gynnyrch, o grefftau lleol Cymreig i anrhegion sydd ar gael yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol yn unig. Ffoniwch 01558 667168 er mwyn cysylltu â’r Siop yn uniongyrchol.
Canolfan Arddio Botanica
Mae ein Canolfan Arddio – Y Pot Blodyn – sydd wedi’i lleoli ger y fynedfa i ymwelwyr, yn gwerthu anrhegion garddio, potiau a phlanhigion, o’r cyffredin i’r ecsotig. Mae mynediad i’r Pot Blodyn YN RHAD AC AM DDIM.