Os hoffech gynnwys stori am yr Ardd Fotaneg yn eich cylchgrawn, papur newydd, ffilm, sioe deledu neu radio, neu ar eich gwefan, mae gan yr Ardd Fotaneg Ganolfan Cyfryngau fywiog i’ch helpu chi.
Mae gennym ni ddigonedd o arbenigwyr sy’n gallu siarad am blanhigion, garddio, bywyd gwyllt, ffermio, byw bywyd cynaliadwy a hanes meddyginiaethol, a gallwn ni roi llwyth o luniau, clipiau o ffilmiau a ffeiliau clywedol i chi i’w defnyddio yn rhad ac am ddim.
Gallwn ni hefyd ddarparu cefndir hyfryd, lleoliad atmosfferig, llawer o blanhigion anhygoel, hen siop apothecari ac amrywiaeth hyfryd o fywyd gwyllt ar gyfer eich ffotograffau, cyfres deledu neu leoliad eich ffilm.
Ydy hyn o ddiddordeb i chi? Cysylltwch â’n Pennaeth Marchnata David Hardy neu rhowch ganiad iddo ar 01558 667149.