30 Tach 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Tachwedd 29

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Penwythnos i Chi a’r Ci

Dewch a’r ci bach am awyr iach yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar Benwythnos i Chi a’r Ci.

Cynhelir Penwythnos i Chi a’r Ci ym mis Rhagfyr ar Ddydd Sadwrn 2ail a Dydd Sul 3ydd

Peidiwch ag anghofio, mae POB Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd!

Gweler rhestr lawn o reolau’r Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.

Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.  Ni chaniateir tenynnau estynedig, gallwch gyfnewid eich un chi am un sydd ddim yn ymestyn hyd ddiwedd eich ymweliad.

Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant dros bum mlwydd oed.  Nid oes tâl am gŵn.

Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd a pharcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

Ras at Achos Da

Mae yna ddigwyddiad i godi arian yn yr Ardd ar Ddydd Sul, Rhagfyr 3ydd, wedi’i drefnu gan yr elusen Tenovus.

Mae yna 2.5k a 5k, yn ogystal â’r ras fwy heriol 10k.  Cofrestru – Oedolion o £6, Plant £4.

I gymryd rhan, cysylltwch â’r tîm trefnu ar events@tenovuscancercare.org.uk neu ffoniwch 029 2076 8863.

Ffair Grefftau’r Nadolig

Bydd Ffair Grefftau Nadolig poblogaidd yr Ardd yn dychwelyd eleni ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Rhagfyr 9 & 10, gyda rhywbeth i bawb yn chwilio am yr anrheg berffaith munud-olaf!

Y Tŷ Gwydr Mawr fydd y lleoliad am ffair arbennig gyda rhengoedd rhyfeddol o stondinau yno yn arddangos anrhegion a chrefftau a wnaed yn lleol; o sgarffiau wedi eu gwneud a’u liwio gan law a gemwaith o waith llaw i ddeunydd cartref ac eitemau gwydr – gyda digon o addurniadau Nadoligaidd hefyd!

Bydd yna Sioeau Siôn Corn ymlaen ar y ddau ddiwrnod hefyd, am 11yb, 12 canol dydd, 2yp a 3yp – £3 y sedd y sioe a bydd gan Siôn Corn anrheg i bob plentyn – ffoniwch 01558 667149 i archebu’ch tocynnau chi’n barod.

Pam na wnewch chi aros ymlaen am ein digwyddiad Gŵyl y Gaeaf anhygoel rhwng 4-7yh? Dewch i’n ‘Gardd Gyda’r Nos’ a chewch fwynhau: sioe goleuadau ysblennydd; gwdihŵ yn y gwyll; gwin cynnes a mins pei am ddim; bar, barbeciw, roliau twrci ac amryw o ddanteithion Nadoligaidd; reidiau i blant; cerddoriaeth a llawer mwy!

Llun gan Laura Elizabeth Designs.

 

Gŵyl y Gaeaf

Does ddim llawer i’w aros tan ddigwyddiad ‘Gŵyl y Gaeaf‘ arbennig yr Ardd.

Dewch i’n ‘Gardd Gyda’r Nos’ a chewch fwynhau:

  • Sioe goleuadau ysblennydd
  • Gwdihŵ yn y gwyll
  • Gwin cynnes a mins-pei am ddim
  • Bar, barbeciw, roliau twrci, siwgr candi ac amryw o ddanteithion Nadoligaidd
  • Reidiau i blant a cherddoriaeth

Mae yna fynediad arbennig o’r 8fed i’r 17eg o fis Rhagfyr, rhwng 4-7yh: £6 i oedolion, £3 i blant, aelodau am ddim.

 

Aelodaeth fel Anrheg Nadolig

Ydych chi’n dechrau gofidio am y ffrind neu berthynas sy’n anodd prynu ar eu cyfer?

Aelodaeth i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r anrheg sy’n cadw rhoi – gan gynnig mynediad AM DDIM i’r Ardd 363 diwrnod o’r flwyddyn, a llawer mwy.

Mae’r prisoedd yn dechrau o £38 a chofiwch, gallwch brynu am unigolyn, am gwpl neu deulu cyfan (dau oedolyn a hyd at bedwar o blant).

Am fwy o wybodaeth am y wahanol fathau o aelodaeth sydd ar gael, cymerwch olwg yma, ffoniwch Ysgrifenyddes Aelodaeth yr Ardd, Jane, ar 01558 667118 neu’r tîm mynediadau ar 01558 667149.

 

Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig

Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfa hedfan dyddiol am 1yp!

Gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, Tylluan Wen a llawer mwy!