16 Tach 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Tachwedd 15

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Sul y Cofio

Ar Ddydd Sul, Tachwedd 19, bydd yna wasanaeth arbennig yn y Tŷ Gwydr Mawr byddwn yn cofio’r rhai a gollwyd – gyda digwyddiad Sul y Cofio, gan ddechrau am 2:30yp.

Rho’r digwyddiad y cyfle i gofio am y rhai a gollwyd, i ddiolch gyda’n gilydd ac i ddod ag iachâd i’n hiraeth.

Mae yna fws rhad ac am ddim ar gael i’r Ardd o Gaerfyrddin – cysylltwch ag Euryl Howells i’w drefnu erbyn Dydd Iau Tachwedd 16 ar 01267 227563.  (Mae’r gwasanaeth wedi ei gefnogi gan gyfraniad preifat).  Mae yna fynediad am ddim i’r Ardd i’r rheini sy’n cymryd rhan yn y gwasanaeth, trwy’r brif fynedfa.

Bydd yna ddarlleniadau dewisedig, cyfraniadau cerddorol gan artistiaid lleol, ynghyd â chanu rhai caneuon/carolau poblogaidd.  Bydd yna gyfle i chi gynnau cannwyll bersonol, ac i gyflwyno enw eich anwylun.

Yn ogystal â dathlu bywyd pobl arbennig sy’n awr yn gorffwys, fe’ch gwahoddir i gefnogi ymhellach gwaith Pwyllgor Apêl Hosbis Tŷ Cymorth.  Noddwr Hosbis Tŷ Cymorth yw Wynne Evans, y tenor o Gaerfyrddin a chyflwynwr BBC Radio Cymru.  Wrth gofio person sy’n arbennig i chi, byddwch hefyd yn sicrhau fod pob dydd yn arbennig i gleifion a theuluoedd eraill.
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Ysgrifennydd Tŷ Cymorth, Emlyn Schiavone ar 07779 420626 neu Euryl Howells, Uwch Gaplan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 01267 227563 neu euryl.howells2@wales.nhs.uk

 

Parti’r Sêr

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal Parti’r Sêr, mewn partneriaeth â Chymdeithas Seryddiaeth Abertawe ac AstroCymru, gyda gweithgareddau seryddiaeth y prynhawn o 2yp tan 5:30yp, a Pharti’r Sêr o 6yh tan 10yh, ar Ddydd Sadwrn, Tachwedd 25ain.

Y gost am weithgareddau seryddiaeth y prynhawn yw £3 y plentyn, gyda gweithdy Seren Wib a Mathemateg (oed 8+) yn rhedeg am hanner awr ac yn dechrau am 2yp, 3yp, 4yp a 5yp.  Bydd sesiynau creu rocedi a D2E gydag AstroCymru yn rhedeg o 2yp hyd at 5:30yp.

Y gost am Barti’r Sêr yw £3 y plentyn, os ydynt wedi talu am weithgareddau’r prynhawn ni fydd rhaid talu eto.  Mae oedolion am ddim ond croesewir rhoddion.  Mae tocyn teulu i’r digwyddiad yn £6 (2 oedolyn a hyd at 4 o blant).

 

Cig Eidion Gwartheg Duon Cymreig Ar Werth

A oes diddordeb gennych mewn prynu cig eidion Gwartheg Duon Cymreig pedigri o ansawdd da a fagwyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru?

Mae gennym nifer cyfyngedig o flychau 9kg-10kg o gig eidion ar werth am £115 y bocs.

Cigyddir y cig a’i ddarnio, ei bacio dan wactod, a’i labelu’n glir, ac mae pob bocs yn cynnwys steciau, golwython, briwgig, ac ati, a byddan nhw ar gael ar ôl 10yb ar Ddydd Iau, Tachwedd 23.

Galwch 01558 667149 rhwng 10yb a 3.30yp, er mwyn prynu eich bocs cig eidion.   Os hoffech fwy o wybodaeth, e-bostiwch meat@gardenofwales.org.uk

 

Gŵyl y Gaeaf

Does ddim llawer i’w aros tan ddigwyddiad ‘Gŵyl y Gaeaf‘ arbennig yr Ardd.

Dewch i’n ‘Gardd Gyda’r Nos’ a chewch fwynhau:

  • Sioe goleuadau ysblennydd
  • Gwdihŵ yn y gwyll
  • Gwin cynnes a mins-pei am ddim
  • Bar, barbeciw, roliau twrci, siwgr candi ac amryw o ddanteithion Nadoligaidd
  • Reidiau i blant a cherddoriaeth

Mae yna fynediad arbennig o’r 8fed i’r 17eg o fis Rhagfyr, rhwng 4-7yh: £6 i oedolion, £3 i blant, aelodau am ddim.

Punnoedd i Piers

Mae aelod o dîm garddwriaeth yr Ardd, Piers Lunt, wedi cael ei ddewis ar gyfer ymgyrch gasglu hadau urddasol i Dasmania.

Nod yr her tair wythnos o hyd hon yw casglu hadau ar gyfer ein prosiect Coed Pedwar Ban yma yn yr Ardd.  Y gobaith yw y bydd y Llechwedd Llechi a’r Ardd Glogfeini hefyd yn elwa.

Caiff Piers ei ymuno gan arbenigwyr eraill o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gerddi Botaneg Genedlaethol Iwerddon a Gerddi Botanegol Brenhinol y Tasmania, ond mae e angen eich helpu chi.

Mae’n rhaid iddo godi £2,000 i ariannu ei daith i Dasmania ac rydyn ni’n gobeithio y gall Aelodau helpu.

Rhowch yr hyn allwch chi os gwelwch yn dda ond, mewn gwir ffasiwn ariannu torfol, mae nifer o wobrwyon ar gael i’r rhoddwyr mwyaf hael:

£50 = 2 tocyn am ddim i’r Ardd
£100 = 4 tocyn am ddim i’r Ardd a thaith tywys arbennig o’r ‘Coedwig Pedwar Ban’ gan Piers
£250 = 2 tocyn teulu, taith tywys gan Piers, te prynhawn unigryw yn y Tŷ Gwydr Mawr a’ch enw’n ymddangos ar label planhigyn o sbesimen Tasmania.

Os gallwch chi helpu, cysylltwch â Jane Down yn yr Adran Aelodaeth os gwelwch yn dda ar 01558 667118 neu jane.down@gardenofwales.org.uk

Gallwch hefyd cyfrannu trwy ymweld â’n tudalen JustGiving, neu drwy ddanfon neges NBGW17 wedi’i ddilyn gan wagle, wedi’i ddilyn gyda’r swm hoffech roi (£1, £2, £3, £4, £5 neu £10) i 70070.