Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Ffair Anrhegion
Fe ddewch chi o hyd i anrhegion siocled, gemwaith, sgarffiau, llyfrau plant, a diodydd Nadoligaidd yn Ffair Anrhegion Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Tachwedd 4 a 5.
Gallwch siopa dan eich pwysau a dewis yr anrheg berffaith bob tro i ffrindiau a theulu.
Ymhlith y stondinau sy’n ymgasglu ymhlith y planhigion Canoldirol yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Ardd Fotaneg, fydd Chantler Teas, Gwirod Hufen Cymreig Cusan a Little Grandma’s Kitchen.
Hefyd ymhlith y casgliad arbennig hwn o stondinwyr lleol, fe ddewch o hyd i ddanteithion blasus gan So Sweet Couture a Bee Dazzled, gan hefyd cynnwys dylunwyr llawn addewid megis Laura Elizabeth Davies ac Anna Palamar.
Meddai’r Trefnydd, Steffan John: “Mae’r ystod o roddion a gynigir mor amrywiol ac anhygoel ag erioed. Mae’n mynd i fod yn benwythnos i’w gofio – lleoliad perffaith i ddechrau’ch siopa Nadolig.”
Cynhelir y Ffair Anrhegion o 10yb hyd at 4.30yp ar y ddau ddiwrnod. Cynhwysir mynediad i’r Ffair ym mhris mynediad i’r Ardd, ac mae digon o le parcio am ddim.
Am fwy o wybodaeth o newyddion a digwyddiadau yn yr Ardd, ewch i wefan yr Ardd , e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.
Punnoedd i Piers!
Mae aelod o dîm garddwriaeth yr Ardd, Piers Lunt, wedi cael ei ddewis ar gyfer ymgyrch gasglu hadau urddasol i Dasmania.
Nod yr her tair wythnos o hyd hon yw casglu hadau ar gyfer ein prosiect Coed Pedwar Ban yma yn yr Ardd. Y gobaith yw y bydd y Llechwedd Llechi a’r Ardd Glogfeini hefyd yn elwa.
Caiff Piers ei ymuno gan arbenigwyr eraill o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gerddi Botaneg Genedlaethol Iwerddon a Gerddi Botanegol Brenhinol y Tasmania, ond mae e angen eich helpu chi.
Mae’n rhaid iddo godi £2,000 i ariannu ei daith i Dasmania ac rydyn ni’n gobeithio y gall Aelodau helpu.
Rhowch yr hyn allwch chi os gwelwch yn dda ond, mewn gwir ffasiwn ariannu torfol, mae nifer o wobrwyon ar gael i’r rhoddwyr mwyaf hael:
£50 = 2 tocyn am ddim i’r Ardd
£100 = 4 tocyn am ddim i’r Ardd a thaith tywys arbennig o’r ‘Coedwig Pedwar Ban’ gan Piers
£250 = 2 tocyn teulu, taith tywys gan Piers, te prynhawn unigryw yn y Tŷ Gwydr Mawr a’ch enw’n ymddangos ar label planhigyn o sbesimen Tasmania.
Os gallwch chi helpu, cysylltwch â Jane Down yn yr Adran Aelodaeth os gwelwch yn dda ar 01558 667118 neu jane.down@gardenofwales.org.uk
Gallwch hefyd cyfrannu trwy ymweld â’n tudalen JustGiving, neu drwy ddanfon neges NBGW17 wedi’i ddilyn gan wagle, wedi’i ddilyn gyda’r swm hoffech roi (£1, £2, £3, £4, £5 neu £10) i 70070.
Parti Pobi’r Ardd!
Gwnaeth yr Ardd cynnal gwerthiant cacennau a enwir ‘Parti Pobi’r Ardd’ ar Ddydd Mawrth Hydref 31ain, gyda staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn rhoi a’n prynu cacennau i godi arian at daith Piers.
Cafodd £400 i’w godi – diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth arbennig!
Cynnydd 45% o Ymwelwyr i’r Ardd
Rydym yn dathlu newyddion da yma yn Ardd, wrth iddo gael ei gyhoeddi bod nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu 45% dros y ddwy flynedd ddiwethaf!
Mae Cyfarwyddwr yr Ardd, Huw Francis, yn credu bod ffocws “mwy teuluol” ac atyniadau newydd wedi helpu i roi hwb i’r nifer o ymwelwyr.
Dywedodd bod 94, 929 o bobl wedi ymweld â’r Ardd yn ystod wyth mis cyntaf eleni, i fyny 45.4% o 65, 285 am yr un cyfnod yn 2015.
Mae’r cynnydd yn y niferoedd o ymwelwyr wedi arwain at gynnydd o 23% mewn trosiant, i fyny o £1.2m yn yr wythnos mis cyntaf o 2015, gyda gweddill o £144,000, i bron £1.5m, gyda gweddill o £227,000 yn ystod yr un cyfnod eleni.
Meddai Mr Francis: “Mae’r Ardd wedi bod yn gweithio’n galed wrth ehangu ei apêl ac mae datblygiadau newydd yn llwyddiant mawr gyda phobl leol a thwristiaid fel ei gilydd.
“Y nod yw cael cynnydd mewn ymwelwyr o 10% o flwyddyn i flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.”
Gallwch ddarllen yr erthygl lawn gan BBC News yma.
Hanner Tymor yr Hydref
Peidiwch â cholli allan ar weithgareddau i’r teulu dros hanner tymor yr hydref – gyda gweithgareddau arbennig y cynhaeaf i’w fwynhau!
Dewch i bobi bara, creu dolis grawn, adeiladu fferm model a dowcio am afalau.
Bydd yna hefyd arddangosfa hedfan adar ysglyfaethus pob dydd, profiadau anhygoel i’w gael yn y Plas Pilipala trofannol a sorbio dŵr.
Mae’r holl weithgareddau i’r teulu hyn yn digwydd rhwng 11yb a 3yp.
Gŵyl y Gaeaf
Does ddim llawer i’w aros tan ddigwyddiad ‘Gŵyl y Gaeaf‘ arbennig yr Ardd.
Dewch i’n ‘Gardd Gyda’r Nos’ a chewch fwynhau:
- Sioe goleuadau ysblennydd
- Gwdihŵ yn y gwyll
- Gwin cynnes a mins-pei am ddim
- Bar, barbeciw, roliau twrci, siwgr candi ac amryw o ddanteithion Nadoligaidd
- Hwyl a sbri a cherddoriaeth
Mae yna fynediad arbennig o’r 8fed i’r 17eg o fis Rhagfyr, rhwng 4-7yh: £6 i oedolion, £3 i blant, aelodau am ddim.