Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth yr Ardd Fotaneg Genedlaethol!
Mae’r Ardd ar gau ar Noson y Nadolig ac ar Ddiwrnod Nadolig ond byddwn yn agor ar Ŵyl San Steffan, pan fydd yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci!
Rho hyn y lleoliad perffaith i roi cynnig ar eich esgidiau cerdded neu farcud newydd. Efallai fe ddaeth Siôn Gorn â chamera newydd i chi neu got gaeaf – ond ni fydd angen hynny arnoch chi yn ein Plas Pilipala trofannol, gyda’i dymheredd 80+ gradd.
Mis Ionawr yn yr Ardd
Mynediad canol wythnos AM DDIM, mynediad ar benwythnos ond £4 y person!
Gwnewch yn fawr o’r mynediad am ddim yn ystod yr wythnos trwy gydol fis Ionawr i gadw’n heini. Mae dewis o lwybrau i’w dilyn, a byd natur i’w werthfawrogi ar bob un ohonynt. Casglwch bamffled o’r llwybrau ‘Cadw’n Heini Am Ddim’ yn y brif fynedfa!
Dydd Sadwrn 6ed – Dydd Sul 7fed o fis Ionawr
Penwythnos i Chi a’r Ci – Dewch â’r ci bach am awyr iach gorau Sir Gâr.
Dydd Sadwrn 13eg – Dydd Sul 14eg o fis Ionawr
Penwythnos Crefftau Coed – Bydd crefftwyr glew yn dangos sut i drin pren ac fe gewch brynu offer arbenigol o bob math ar y stondinau.
Dydd Sadwrn 20fed – Dydd Sul 21ain o fis Ionawr
Ffair Fwyd – Y bwyd a diod gorau yng Ngorllewin Cymru.
Dydd Sadwrn 27ain – Dydd Sul 28ain o fis Ionawr
Ffair Hen Bethau – Bydd stondinau o gwmpas yr Ardd yn drwmlwythog â thrysorau a bargeinion di-ri, gyda chriw ‘Bargain Hunt’ y BBC yn dychwelyd i ffilmio!
Aelodaeth fel Anrheg Nadolig
Ydych chi’n dechrau gofidio am y ffrind neu berthynas sy’n anodd prynu ar eu cyfer?
Aelodaeth i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r anrheg sy’n cadw rhoi – gan gynnig mynediad AM DDIM i’r Ardd 363 diwrnod o’r flwyddyn, a llawer mwy.
Mae’r prisoedd yn dechrau o £38 a chofiwch, gallwch brynu am unigolyn, am gwpl neu deulu cyfan (dau oedolyn a hyd at bedwar o blant).
Am fwy o wybodaeth am y wahanol fathau o aelodaeth sydd ar gael, cymerwch olwg yma, ffoniwch Ysgrifenyddes Aelodaeth yr Ardd, Jane, ar 01558 667118 neu’r tîm mynediadau ar 01558 667149.
Anrhegion o Siop yr Ardd
Yn ogystal ag Aelodaeth fel anrheg, gallwch ddod o hyd i’r anrheg berffaith i deulu a ffrindiau yn ein Siop Rhoddion.
O Galendr 2018 yr Ardd a chardiau Nadolig, i whisgi, blancedi gwlân ac anrhegion llechi Cymreig gan wneuthurwyr lleol, mae yna ddigonedd o ddewis.
Mae’r Siop yn cymryd archebion dros y ffôn ar 01558 667168.