28 Meh 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Mehefin 28

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Penwythnos Hen Bethau

Mae trysor Cymreig, o’r anghyffredin i’r unigryw i drawsffurfio Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, wrth i Ffeiriau Derwen dychwelyd.

Bydd hen bethau, pethau casgladwy, retro a hen ffasiwn yn cymryd i’r llwyfan ymhlith y blodau prin ac sydd mewn peryg yma ar Ddydd Sadwrn a Sul 1af ac 2ail o fis Gorffennaf.
Mae’r digwyddiad poblogaidd Ffeiriau Derwen wedi cynyddu o 23 stondin yn y dyddiau cynnar, i fwy na 100, wedi gwasgaru ar draws y safle gan gynnwys Theatr Botanica, Pabell Fawr yr Ardd a Thŷ Principality, o gyfnod y Rhaglywiaeth.
Gall ymwelwyr gweld celf Gymreig, crochenwaith Cymreig a chelfi derw Cymreig ymhlith y planhigion Canoldirol yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Norman Foster, a fydd marchnad hen ffasiwn yn cymryd dros y cwrt cyfan.
Mae’r Farchnad Hen Ffasiwn yn ychwanegiad newydd a chyffrous i’r Ffair Hen Bethau, wrth i eitemau megis mapiau a phaentiadau prin i’w gweld yna.
Meddai’r trefnydd, Brita Rogers:  “Mae yna llai o ffeiriau hen bethau yng Nghymru’r dyddiau hyn.  Rydym ni am gynnig rhywbeth i bawb, i’r rheini gyda diddordeb yn casglu hen bethau traddodiadol i eraill sy’n edrych am rywbeth ychydig ‘retro.’  Yr ydym am symud gyda’r amser.”
Mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 6yh, gyda’r mynediad diwethaf am 5yp.  Bydd mynediad i’r Ardd a’r Ffair yn £4 y person, gyda pharcio am ddim.

 

Clwb Archeolegwyr Ifainc

O 10yb tan 12 canol dydd ar Ddydd Sadwrn yr 2ail o fis Gorffennaf, a’r Dydd Sadwrn cyntaf o bob mis, mae croeso i blant 8-16 ymuno â’r clwb er mwyn dysgu am gloddio ac am hanes yr Ardd.

Mae’r clwb yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac os ydych yn hŷn na 16 oed ac yn dymuno cymryd rhan byddem yn falch o glywed gennych. Mae’n bosibl i ddod i helpu o 16 mlwydd oed ac yn dod yn arweinydd pan fyddwch yn 18 oed, ac nad oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol.

Gall rhieni aros am y sesiynau.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â yacatthegarden@gmail.com neu ffoniwch 07484 142886.

 

Taith Tywys ymhlith y Blodau

Ymunwch â Dr Michael Isaac am daith un awr o hyd o flodau gwyllt yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Sul Gorffennaf yr 2ail am 2yp.

Wrth gerdded trwy ein coedwig hyfryd yn y gwanwyn, ac yn ein gelltydd llond tegeirianau ym Mehefin, cewch y cyfle i ddarganfod sut i wahaniaethu gludlys o’r coesgoch, petal o sepal, blodyn-ymenyn ymlusgol o flodyn-ymenyn y maes a’r pedair math wahanol o degeirian yr allt.

Os hoffech glywed y daith yn y Gymraeg, ffoniwch 01558 667149 o flaen llaw os gwelwch yn dda.

 

Clwb Alawon Tywi

Hefyd ar Ddydd Sul Gorffennaf yr 2ail, bydd Clwb Alawon Tywi yn perfformio cerddoriaeth ar lwyfan y Tŷ Gwydr Mawr am 11:30yb a 2yp.

 

Kate Rusby

Bydd Kate Rusby, seren cerddoriaeth werin, yng nghyngerdd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn Gorffennaf 15fed.

Un o ddehonglwyr gorau o werin draddodiadol ac yn un o gyfansoddwyr caneuon gorau’r DU, bydd Kate ar y llwyfan yn yr Ardd o 7:30yh.
Mae hi wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Mercury, ac wedi derbyn gwobrau am Ganwr Gwerin y Flwyddyn, Perfformiwr Fyw’r Flwyddyn, Albwm Gorau a Chân Wreiddiol Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2.
Ar fin chwarter canrif o greu cerddoriaeth, gwnaeth Kate Rusby rhyddhau ei 14eg albwm stiwdio Life in a Paper Boat yn hwyr y llynedd i adolygiadau gwych.
Mae tocynnau yn £25 ac ar gael o’r Ardd yn uniongyrchol, Eventbrite, aDerricks Music yn Stryd Rhydychen, Abertawe.

 

Gofalu am Gorff ac Enaid

Gyda phobeth o reiki i adweitheg, a grisalau i tarot, mae’r digwyddiad Gofalu am Gorff ac Enaid yn ganolbwynt ar gyfer bywyd iach a chyfannol.

Mae’r digwyddiad yn dychwelyd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn a Sul Gorffennaf 8fed & 9fed, yn brolio dewis eang o driniaethau cyflenwol.
Meddai’r trefnydd, Sarah Clarke: “Rydym yn gyffrous iawn i ddychwelyd i’r Ardd, roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant mawr.”

 

Penwythnos i Chi a’r Ci

Hefyd ar yr 8fed a 9fed o fis Gorffennaf, bydd yna Benwythnos i Chi a’r Ci arall, misol, yr Ardd!

Dewch â’r ci bach am awyr iach ar draws 568 o erwau’r Ardd.

Nodwch, NI chaniateir tenynnau estynedig, gallwch cyfnewid eich un chi i mewn yn y Porthdy am denyn nad yw’n ymestyn, a chasglwch eich un chi wrth i chi adael.

Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.

 

Yr Ardd – Cylchgrawn i Aelodau

Mae rhifyn diweddaraf Cylchgrawn i Aelodau’r Ardd, Yr Ardd, ar gael nawr!

Os ydych yn Aelod a hoffech dderbyn copi, neu os hoffech fwy o wybodaeth am ddod yn Aelod yr Ardd, cysylltwch â Jane Down ar 01558 667118 neujane.down@gardenofwales.org.uk

 

Digwyddiadau’r Haf

Mae pamffled Digwyddiadau’r Haf 2017 yr Ardd nawr ar gael hefyd!

Galwch i mewn i gasglu copi i weld y rhestr wych o ddigwyddiadau sydd gennym dros y misoedd nesaf.

 

Taith Adfer y Parcdir

I gael gwybod mwy am barcdir hanesyddol ac anhygoel Syr William Paxton a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ein Prosiect Adfer y Parcdir Godidog, ymunwch â Louise Austin, Swyddog Treftadaeth yr Ardd, am 2yp y Dydd Gwener hwn, o Fynedfa Orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr am daith tywys o ddwy awr o hyd.

Mae’r tir yn anwastad a gall fod yn fwdlyd; gwisgwch esgidiau cadarn.