21 Medi 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Medi 19

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Penwythnos i Chi a’r Ci

Mae yna benwythnos arbennig i gŵn a’u berchnogion yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn 23 a Dydd Sul 24 o fis Medi, gydaPhenwythnos i Chi a’r Ci.
Peidiwch ag anghofio, mae POB Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd!

Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.  Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.  Ni chaniateir tenynnau estynedig, gallwch cyfnewid eich un chi am un sydd ddim yn ymestyn yn y brif fynedfa.
Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant dros bum mlwydd oed.  Nid oes tâl am gŵn.

Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd a pharcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

 

Cerdded Nordig yn yr Ardd

Pob prynhawn Dydd Llun gan ddechrau ar 11eg o fis Medi: dysgwch gerdded Nordig ar gwrs pedair wythnos.
Ewch i’r afael â’r dechneg hon o gerdded i’ch helpu i gyrraedd eich amcanion iechyd a ffitrwydd personol.  Mae pob sesiwn yn ychwanegu ‘gêr’ arall ac yn eich helpu i ddeall sut i ennill gyriad, cynyddu’n raddol a dysgu sut i gerdded Nordig am ffitrwydd, colli pwysau neu am hwyl.

Mae yna bedwar sesiwn un awr o hyd mewn grŵp hamddenol sy’n addas ar gyfer pob lefel.  Mae’r sesiynau blas yn dechrau am 12:30yp.  Mae yna Daith Gerdded Hamddenol er Lles am 1:45yp.

Mae Teithiau Cerdded Antur reolaidd yn ffordd dda o fod yn weithgar yn yr awyr agored ac i fwynhau Cerdded Nordig mewn lleoliadau syfrdanol gyda grŵp gallu cymysg.  Mae’r dosbarthiadau hyn i gyd yn gorffen yn y caffi.

I’r rhai sydd â phryderon ynglŷn â phellter, cyflymder neu eu hiechyd, mae ein Teithiau Lles yn ffordd ddiogel iawn o gadw’n heini.  Ni fydd y teithiau cerdded yn mynd ymhell o’r fynedfa, a byddant yn cynnwys ymarferion sy’n helpu gyda hyblygrwydd, cydbwysedd a chryfder wrth ddefnyddio polion i wella ffitrwydd cyffredinol a chynyddu symudedd ar y cyd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Becki o Pilates in the Nordig os gwelwch yn dda, ar 07502 215827 neu pilatesinthenordic@gmail.com neu ewch i www.pilatesinthenordic.com

 

Y Sealed Knot yn yr Ardd

Mae hanes anhygoel Neuadd Middleton yn dod yn ôl i fyw yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, diolch i’r arbenigwyr ail-greu byd-enwog, y Sealed Knot.

Dewch i weld milwyr Syr Henry Vaughan yn Sir Gaerfyrddin dros benwythnos Medi 30ain a Hydref 1af, er mwyn dod â hanes y rhyfel cartref yng Nghymru i fyw.

Bydd amrywiaeth o gymeriadau yn helpu i ddod â’r cyfnod diddorol hwn yn ein hanes i fywyd a chaiff ymwelwyr y cyfle i gael gwir brofiad o fywyd yn y 17eg ganrif.  Bydd actorion mewn gwisg wrth law i ddod â hanesion i chi o fywydau pobl leol, a’u syniadau a’u teimladau am y Rhyfel Cartref a oedd yn rhwygo’r wlad ar wahân.  Gwyliwch filwyr lleol yn ymarfer eu sgiliau yn uniongyrchol.
Cewch wybod mwy am hanes hynod o ddiddorol yr Ardd yma.

Aelodau, Dewch â Ffrind – Am Ddim

Cofiwch mai Mis Medi yw’r mis y gall aelodau dod â ffrind am ddim i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Trwy gydol y mis, bydd eich cerdyn aelodaeth yn caniatáu mynediad i un person ychwanegol – bob dydd o fis Medi.

Ac mae digon i’w weld a’i wneud yn ystod y mis arbennig hwn.

Am fwy o wybodaeth ar sut i ddod yn aelod o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ffoniwch Jane ar 01558 667118 neu e-bostiwch membership@gardenofwales.org.uk

Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig

Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfa hedfan dyddiol am 2:30yp!

Gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, Tylluan Wen a llawer mwy!