Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Diwrnod Cennin Pedr
Cennin Pedr fydd yng nghanol y sylw am ddiwrnod arbennig sydd wedi’i neilltuo i flodyn cenedlaethol Cymru yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Mawrth 25ain.
Gyda dros 50 math gwahanol o gennin Pedr, mae’r Ardd yn lle naturiol i archwilio’r gwahaniaeth rhwng un narsisws â’r llall.
Dewch i ddarganfod pa rywogaethau Cymreig sydd mewn perygl o ddiflannu o’r tir a sut y datblygodd cysylltiad rhwng y blodau hyn a’n nawddsant, Dewi Sant.
Y naturiolwr, Ray Woods, fydd ein tywysydd arbennig wrth iddo roi sgwrs a thaith am ddim ar hanes y cennin Pedr a’u cysylltiadau Cymreig. Bydd y sgwrs yn digwydd yn Theatr Botanica am 1yp wedi’i ddilyn gan daith tywys ar gasgliadau cennin Pedr yr Ardd.
Fe fydd yna gystadleuaeth cennin Pedr gwych ar y diwrnod hefyd, lle gall plantos bach ac oedolion cymryd llun gyda’n ‘ffrâm hun lun’ ymhlith cennin Pedr yr Ardd, gydag offer garddio i blant, a chennin Pedr mewn pot a llyfr Tyfu’r Dyfodol fel gwobr i’n hoff luniau! Danfonwch eich lluniau i dudalen Facebook yr Ardd neu brosiect Tyfu’r Dyfodol i gystadlu.
Bydd llwybr hunan-arweiniol o amgylch uchafbwyntiau cennin Pedr yr Ardd ar gael i ymwelwyr yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad hwn yn ogystal â Dydd Sul, Mawrth 25ain.
Mae Diwrnod Cennin Pedr ymlaen o 10yb hyd at 4.30yp, gyda gweithgareddau’r diwrnod wedi’u cynnwys ym mhris mynediad yr Ardd.
Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant pump i 16 mlwydd oed. Mae mynediad am ddim i aelodau’r Ardd a pharcio am ddim i bawb.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu unrhyw ddigwyddiad arall, ewch i’n gwefan, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk
Mae’r digwyddiad hwn fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.
Dilynwch yr Ardd ar Facebook, Twitter ac Instagram
Dilynwch prosiect Tyfu’r Dyfodol ar Facebook a Twitter
Diwrnod i Chi a’r Ci
Bob Dydd Llun caiff eich cŵn fynediad i’r 568 erw o gefn gwlad hyfryd sydd gan yr Ardd, felly dewch â’ch ci bach am awyr iach gorau Sir Gâr.
Mae penwythnosau cyfan wedi’u clustnodi hefyd: Ebrill 7-8, Mai 19-20 a Mehefin 2-3, gyda Thaith Antur yn y Coed i’r Cŵn ar Ddydd Llun Mai 14, gan gwrdd ym mynedfa’r gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr.
Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma. Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.
Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith. Ni chaniateir tenynnau estynedig, gallwch gyfnewid eich un chi am un sydd ddim yn ymestyn hyd ddiwedd eich ymweliad.
Pasg yn yr Ardd
Penwythnos y Pasg
Dydd Gwener Mawrth 30ain – Dydd Llun Ebrill 2ail
Gwledd o gerddoriaeth, consurio, creu gwyrthiau gyda balwnau, saethyddiaeth a pherfformiad gan y Quack Pack penigamp, yn ogystal â Modelwyr Caerfyrddin a’r cyfle i ddringo coeden, abseilio a chrefft y goedwig.
Mae pethau’n dechrau ar Ddydd Gwener y Groglith, Mawrth 31ain a bydd digwyddiadau a gweithgareddau ar BOB diwrnod o wyliau’r Pasg.
Gall ymwelwyr hefyd cymryd mantais o ‘docyn dychwelyd’ poblogaidd yr Ardd, sy’n caniatáu i bobl ail-ymweld am ddim o fewn saith diwrnod o’u hymweliad cyntaf – felly cadwch eich tocynnau!
Gwyliau’r Pasg
Dydd Gwener y Groglith Mawrth 30ain – Dydd Sul Ebrill 15fed
Dyma’ch cyfle i Gwrdd â Mirgath – a sawl anifail ecsotig arall. Coginiwch rywbeth allan yn y goedwig, defnyddiwch fwa a saeth, a gwnewch yn fawr o’r gweithgareddau sydd ar gael i deuluoedd bob dydd o’r gwyliau. Bydd yna sesiwn Rygbi i’r Plantos i ddysgu sgiliau rygbi i blant bach brwd ar Ddydd Mercher, Ebrill 11eg, gyda sesiwn yn y bore a’r prynhawn.
Am restr lawn o beth sydd ymlaen dros Wyliau’r Pasg, gwelwch yma.