Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Mis O Gerddoriaeth
Dydd Sadwrn Mawrth 18fed
11yb – 12:30yp – Iwcalilis Caerfyrddin
12:30yp – 2yp – Canwyr yr Olwyn Ddŵr
2yp – 3:30yp – Triawd Steve Williams
Dydd Sul Mawrth 19eg
11yb – 12:30yp – Caroline Harrison
12:20yp – 2yp – Tristan John
2yp – 3:30yp – Band Cyngerdd Dinas Abertawe
Hefyd ar Ddydd Sul y 19eg fydd Clwb Hen Geir Dyffryn Tywi’n tanio’r injan yn Sgwâr y Mileniwm gan arddangos amrywiaeth o gerbydau diddorol o feiciau modur, beiciau, tractorau yn ogystal â cheir a faniau.
Mis y Cennin Pedr
Mae mis Mawrth yn Fis y Cennin Pedr yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol felly dyma’r mis i fwynhau pob math o gennin Pedr, mae miloedd ohonynt i’w gweld yma!
Gyda dros 50 o wahanol rywogaethau i’w ddarganfod, gan gynnwys rhai rhywogaethau Cymraeg arbennig, mae’r Ardd yn le hyfryd i ddod a dysgu mwy am flodyn cenedlaethol Cymru.
Gallwch gasglu Llwybr y Cennin Pedr o’r Porthdy ac mae yna ddewis arbennig o gennin Pedr ar werth yng nghanolfan planhigion Y Pot Blodyn.
Mercher Mwdlyd
Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!
Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy, mae yna dâl mynediad arferol i oedolion ac mae plant o dan 5 mlwydd oed am ddim.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150.
Sul y Mamau
Bydd yna wledd i Fam ar Ddydd Sul, Mawrth 26ain, gyda mynediad AM DDIM ar ddiwrnod arbennig o faldodi, yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd rhestr mawr o harddwyr, arbenigwyr ar golur a chynhyrchwyr fwyd a chrefft yn cynnig amrywiaeth o flaswyr blasus yn cynnwys gwydryn o siampaen blodau’r ysgaw am ddim, triniaeth i’r gwyneb, cymorth gofal croen, triniaeth dwylo a thraed – ac i gyd am ddim i fam!
Bydd yna westai arbennig i’r Ffair eleni hefyd, gyda’r wraig fusnes ac enillydd ‘The Apprentice’ 2016, Alana Spencer, yn gwerthu cynnyrch o’i busnes newydd sbon, ‘Ridiculously Rich by Alana’!
Bydd Alana yn cymryd ei lle yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster, ynghyd â dewis eang o fwyd a diod flasus yn ogystal â chrefftau ac anrhegion gan gynhyrchwyr eraill o Orllewin Cymru.
Prentisiaeth Cynllun Gardd Cenedlaethol
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’n helpu i dyfu garddwyr y dyfodol gyda dwy brentisiaeth newydd yng ngarddwriaeth fotanegol.
Yn dechrau ym mis Medi eleni, mae’r ddwy rôl newydd wedi’u hariannu gan y Cynllun Gardd Cenedlaethol, a’r cymwynaswr preifat, Patrick Daniell.
Meddai Cyfarwyddwr yr Ardd, Huw Francis bod y ddwy brentisiaeth, o ddwy flynedd o hyd, yn newyddion da i Gymru a’n newyddion gwych am arddwriaeth fotanegol: “Yr ydym wedi cael yr amcan hwn ers tro i ddiwyllio talent Gymreig ac mae’r newyddion arbennig hyn yn garreg filltir fendigedig ar y daith i sylweddoli’r uchelgais hwn.”
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i geisio, gwelwch yma os gwelwch yn dda.