
Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Penwythnos y Lili Wen Fach
Bydd eirlysiau yn dwyn y sylw i gyd ar benwythnos arbennig sy’n canolbwyntio ar y blodyn pert, meindlws hwn sy’n gennad i’r Gwanwyn – i’w gynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (Chwefror 3-4)
Bydd yr arbenigwraig garddwriaethol, Naomi Slade, yn arwain y dathliad dau ddiwrnod, ac yn ein tywys ar daith o amgylch prif leoliadau’r eirlysiau yn yr Ardd. Bydd hi hefyd yn rhoi sgwrs ar dyfu a gofalu am blanhigion eich hun, eu tarddiad diddorol ac yn edrych ar sut i’w defnyddio yn yr ardd.
Bydd y sgwrs yn cael ei gynnal am 11:30yb ar y ddau ddiwrnod, yn Theatr Botanica gyda’r daith tywys yn dechrau yna am 2yp.
Mae llwybr hunan-arweiniol o amgylch y prif leoliadau i weld yr eirlys ar gael i ymwelwyr yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad hwn, a hefyd ar y 3ydd a’r 4ydd.
Mae Penwythnos yr Eirlys ymlaen o 10yb hyd at 4:30yp ar y ddau ddiwrnod. Mae pob gweithgaredd sy’n ymwneud â’r eirlys wedi’u cynnwys ym mhris mynediad yr Ardd.
Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd, ac mae parcio AM DDIM i bawb.
Mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 4.30yp, gyda’r mynediad olaf am 3.30yp.
Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill, gwelwch ein gwefan, galwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk
Mis Chwefror yn yr Ardd
Wrth i ni adael mis Ionawr a symud ymlaen at fis Chwefror, cymerwch olwg ar dudalen ‘Pethau Byw’ yr Ardd i weld y blodau a phlanhigion y gallwch fwynhau yn yr Ardd y mis hwn!
Yn ogystal â blodau tymhorol, pilipalod trofannol, y tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd a chefn gwlad hyfryd i’w fwynhau, mae gennym restr arbennig o ddigwyddiadau ymlaen y mis hwn:
Dewch i weld y pilipalod anhygoel yn y Plas Pilipala trofannol.
Hydref-Mawrth – Teithiau Tywys Treftadaeth – Ar Ddydd Mercher cyntaf a Dydd Gwener olaf pob mis, gan ddechrau o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr am 2yp. Gwisgwch esgidiau cadarn.
Chwefror 3-4
Penwythnos y Lili Wen Fach – Milltir cyfan o eirlysiau i’w gweld, ynghyd â chyngor gan ein harbenigwraig, Naomi Slade, sydd wedi gwirioni ar y blodau hyfryd hyn.
Chwefror 10-11
Penwythnos i Chi a’r Ci – Dewch â’r ci bach am awyr iach gorau Sir Gâr!
Chwefror 15
Middleton: Adennill Paradwys – Diweddariad
Ymunwch â Louise Austin, Swyddog Treftadaeth, am y newyddion diweddaraf ar y gwaith i adfer y parcdir – 11yb yn Theatr Botanica
Chwefror 16
Bore Coffi i Aelodau – Sgwrs o’r enw ‘Gweledigaeth am y Dyfodol’ gan Guradur yr Ardd, Will Ritchie. £2.50 sy’n cynnwys te/coffi a bisgedi – Aelodau’n Unig
Chwefror 17
Taith Het Galed – Cwympo Coed i Adfer y Parcdir
Ymunwch â Rob Wells, Coedwigwr i Gwmni Goedwig Llanbedr Pont Steffan, ar daith tywys tu ôl i’r llenni i ddarganfod mwy am ein gwaith i adfer y parcdir. Yn dechrau am 11yb o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr, gwisgwch esgidiau cadarn os gwelwch yn dda. Rhaid archebu o flaen llaw, cysylltwch â angharad.phillips@gardenofwales.org.uk neu 01558 667177
Chwefror 17-25
Hanner Tymor Mis Chwefror – Gallwch ddisgwyl digon o hwyl a sbri a gêmau. Gweithgareddau i’r teulu ymlaen o 12 canol dydd hyd at 4yp bob dydd o’r gwyliau
Chwefror 20
Dysgu i Garu Cen – Dewch draw i ddysgu’r pethau sylfaenol, archwilio eu byd cudd a gweld sut mae cennau’n cael eu cadw yn yr Ardd.
Taith 1 awr o hyd gyda Peter Lee-Thompson, Swyddog Addysg a Choetir – yn dechrau am 2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr, gwisgwch esgidiau cadarn os gwelwch yn dda.
Chwefror 22
Gweithdy Llosgi ac Arlunio Siarcol – mewn partneriaeth gydag Oriel Myrddin.
Dewch i ddysgu sut i wneud siarcol, ar raddfa fawr neu fach, a gwnewch siarcol eich hun i gymryd adref. 11yb-3yp – yn addas i bobl dros 8 mlwydd oed. Rhaid archebu o flaen llaw, cysylltwch â peter.leethompson@gardenofwales.org.uk neu 01558 667157
Chwefror 24
Parti’r Sêr – Cewch syllu ar yr awyr fry yng nghwmni aelodau Cymdeithas Seryddiaeth Abertawe, a chael cyngor ganddynt ar fathau o delesgop hefyd. 6-9yh, £3 y plentyn, aelodau am ddim ond croesewir rhoddion
Chwefror 25
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi – Yn arwain at ddydd ein nawddsant, dewch i’r Ardd AM DDIM i fwynhau ffair fwyd a chrefft Gymreig a cherddoriaeth gan gôr a thelyn.
Cerddoriaeth ar lwyfan y Tŷ Gwydr Mawr:
11yb-12.20yp – Triawd Jeff Williams
12.20-1.40yp – Côr Curiad
1.40-2.50yp – Band Chwyth Symffonig Caerfyrddin
2.50-4yp – Brenig
Adweitheg yn yr Ardd
A wyddoch chi yna stiwdio adweitheg o fewn yr Ardd?
Wedi’i leoli yn yr Ardd Wallace, mae Llawenydd yn cael ei rhedeg gan adweithegydd profedig, Jody Evans.
Adweitheg yw’r wyddoniaeth o ddefnyddio’r egwyddor bod meysydd atgyrch yn y traed a’r dwylo sy’n cyfateb i holl chwarennau ac organau’r corff. Gan ysgogi’r atgyrchau hyn yn iawn, gall helpu llawer o broblemau iechyd mewn ffordd naturiol.
Mae triniaethau adweitheg yn para awr fel arfer, gydag ymgynghoriad meddygol cyn y driniaeth.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys archebu apwyntiadau, cysylltwch â Jody Evans ar 07766043237 neu e-bostiwch llawenyddjody@gmail.com