19 Ion 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Ionawr 19

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Dyma gylchlythyr diweddaraf yr Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

 

Danteithion Blasus o’r Ffair Fwyd

Bydd y wraig fusnes ac enillydd ‘The Apprentice’ Alana Spencer yn dechrau ei bywyd newydd, cyffrous fel y mentrwr wedi’i chefnogi gan Alan Sugar, yn Ffair Fwyd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Bydd Alana yn cymryd ei lle yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster ar Ddydd Sadwrn a Sul, Ionawr 21-22, ynghyd â dewis eang o fwyd a diod flasus o gynhyrchwyr Gorllewin Cymru.

Meddai trefnydd y digwyddiad, David Hardy:  “Does dim ffordd well o godi’ch calon yn ystod mis hir, diflas o Ionawr na ffair fwyd.  Bydd hyn yn ddigwyddiad blasus iawn gyda selsig arbennig, cymysgedd perffaith o wirodydd, cig, a bwyd feganaidd, hon fydd y lle i fod y penwythnos yma.”

Mae mynediad i’r Ardd ond yn £3.  Mae’r gatiau’n agor o 10yb ac yn cau am 4:30yp (mynediad diwethaf am 3:30yp).  Nid oes unrhyw dâl ychwanegol i’r Ffair Fwyd ac mae digon o barcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am hyn neu unrhyw ddigwyddiad arall yn yr Ardd, ewch i’n gwefan, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

 

Eirlys a Chennin Pedr

Mae arwyddion cynnar o dymor y gwanwyn yn dechrau ymddangos yn yr Ardd, wrth i Eirlys a Chennin Pedr dechrau blodeuo.

Wrth i chi gyrru mewn i faes parcio’r Ardd, fe welwch arddangosiad hyfryd o Gennin Pedr (Narsisws ‘synhwyriad cynnar’).  Yna, wrth i chi gerdded i fyny’rRhodfa, sylwch ar yr helaethrwydd o eirlys o gwmpas ardal ffynnon Cylch Edward Llwyd.

Cadwch lygad amdanynt wrth i chi rhoi cynnig i’n llwybrau cerdded newydd ‘Cadw’n Heini Am Ddim‘!

Rhannwch eich lluniau o’r blodau poblogaidd yma yn yr Ardd ar ein tudalennau cyfrwng cymdeithasol trwy ddefnyddio #GarddCymru neu #GardenOfWales.

 

Diwrnod Santes Dwynwen

Dydd y cariadon yng Nghymru yw Ionawr 25ain a pha well ffordd i’w dathlu na thro gyda’ch cariad yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol?

Ac, gan fydd hi’n ddiwrnod o’r wythnos yn ystod mis Ionawr bydd mynediad i’r Ardd yn rhad ac AM DDIM!

Felly, p’un ai tro ar hyd ein cadwyn o lynnoedd neu goffi a chacen gysurus yn Y Pot Blodyn, yr Ardd fydd y lleoliad perffaith i wario’ch diwrnod.

Gweler hanes Santes Dwynwen yma.

Cadw’n Heini Am Ddim

Mae llwybrau newydd ‘Cadw’n Heini Am Ddim‘ yr Ardd yn profi i fod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr, gyda nifer ohonynt yn cymryd mantais o’r teithiau golygfaol, yn ogystal â mynediad AM DDIM ar ddiwrnodau’r wythnos.

Rydym wedi creu nifer o lwybrau o gwmpas yr Ardd – rhai ar lwybrau gwastad yn addas i rodwyr, pramiau a chadeiriau olwyn gyda rhai sy’n fwy garw, gyda llwybrau garw o gwmpas yr ystâd a heibio’r rhaeadr.

Pa well ffordd i brofi’ch teclynnau heini newydd, i ddod o hyd ac i ysgwyd y llwch oddi ar eich FitBit y gwnaethoch gael y Nadolig diwethaf i glocio nifer fawr o gamau.

Mae’r amrywiaeth o lwybrau yma wedi cael eu marcio’n glir, ac mae map am ddim i’ch tywys ar eich taith – gall y map hefyd cael ei lawr lwytho o’n gwefan os hoffech chi ei gweld o flaen llaw.

Mae gan bob llwybr cyfradd ‘teisen gwpan’ sy’n cyfeirio at y radd o anhawster.

Gwelwch darn ar y llwybrau yma ar raglen ‘Heno‘ S4C yma.

Os gallwch ymweld â’r Ardd ar benwythnosau’n unig, peidiwch â phoeni, mae mynediad ond yn £3 ar Ddiwrnodau Sadwrn a Sul yn ystod mis Ionawr.

 

Diwrnod i Chi a’r Ci

Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.

A gan ei fod yn ddiwrnod o’r wythnos ym mis Ionawr, bydd mynediad yn rhad ac AM DDIM!

Rhaid i gŵn fod ar dennyn di-estynadwy trwy’r amser, ac oherwydd y planhigion a philipalod prin a gwerthfawr, ni chaniateir cŵn tu fewn i Blas Pilipala.

Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer Penwythnosau i Chi a’r Ci yn yr Ardd.  Peidiwch ag anghofio, trwy’r gaeaf – mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci!

 

Mercher Mwdlyd

Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!

Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy ac mae mynediad ar bob Dydd Mercher yn ystod mis Ionawr am ddim!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150.