Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Diwrnod Ffwng Cymru
Mae’r 6ed Diwrnod Ffwng blynyddol yn addo cymysgedd o wyddoniaeth, celf a hud a fydd yn apelio at unrhyw un gyda diddordeb mewn ffwng diddorol.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys –
- Teithiau a sgyrsiau tywys amdano ffwng mewn gweunydd, gwelyau blodau, lawntiau a choedwig
- Bwrdd Tony – digonedd o ffwng ffres
- Bale ffwng a thylwyth teg
- Dewch i ddarganfod pa ffwng y gallwch fwyta, a pha rhai y dylech osgoi
- Taith y Tylwyth Teg – edrychwch am olion y tylwyth teg yng Nghoed y Tylwyth Teg, sy’n gyfoethog mewn ffwng, a phostiwch lythyr i’r tylwyth teg yn eu pentref
- Arddangosfa o lyfrgell ffwng Roy Watling
- Y cyfle olaf i weld yr arddangosfa ffwng hynod o boblogaidd, ‘O Deyrnas Arall’
- Arddangosfeydd o decstilau, celf a darluniau wedi’u hysbrydoli gan ffwng
- Llawer o weithgareddau ffwng a thylwyth teg i’r teulu
- Stondinau yn gwerthu cynnyrch ffwng a thylwyth teg
Mynediad am ddim i unrhywun sydd wedi gwisgo fel coblyn neu dylwyth teg!
Teithiau Tywys:
11yb-12yp: Coedwig y Tylwyth Teg gyda Pat O’Reilly
12:30-1yp: Enwau Cymraeg Ffwng gyda Jean Oliver & Bruce Langridge
1-2:30yp: Gweunydd Cap Cwyr gyda David Mitchel
3-4yp: Mannau Gorau’r Ardd i Weld Ffwng gyda Bruce Langridge
Mae pob taith tywys yn dechrau o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr
Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant dros bum mlwydd oed.
Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd a pharcio am ddim i bawb.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk
Penwythnos i Chi a’r Ci
Mae yna benwythnos arbennig i gŵn a’u berchnogion yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn 14 a Dydd Sul 15 o fis Hydref.
Peidiwch ag anghofio, mae POB Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd!
Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma. Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.
Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith. Ni chaniateir tenynnau estynedig, gallwch cyfnewid eich un chi am un sydd ddim yn ymestyn yn y brif fynedfa.
Diwrnod Shwmae/Sumae
Mae Diwrnod Shwmae/Sumae, ar Ddydd Sul 15fed o Hydref, yn ddiwrnod i rannu a dathlu’r iaith Gymraeg.
I ddathlu’r diwrnod, mae’r Ardd yn cynnig mynediad hanner pris i ddysgwyr y Gymraeg. Yn ogystal â hyn, a gan ei fod yn Ddiwrnod Ffwng Cymru, bydd yna daith tywys enwau Cymraeg ffwng am 12:30-1yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr.
Bydd Menter Cwm Gwendraeth Elli yn cynnal sesiynau sgwrs Gymraeg anffurfiol yn y Tŷ Gwydr Mawr o 1:30-3:30yp – gyda chymorth i unrhyw un yn awyddus am ddysgu’r Gymraeg.
Ras y Sioe Frenhinol
Dyma ddigwyddiad newydd sbon i godi arian at Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Sir Gaerfyrddin yw sir nawdd am y sioe a threfnir ras a thaith gerdded 2.5k, ras 5k & ras 10k i bob oed a gallu yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul 15fed o fis Hydref.
Cofrestrwch i gymryd rhan yma. Mae yna wobrau arian i’r dyn a menyw sy’n gorffen yn gyntaf, gyda medalau i bawb sy’n cwblhau ras.
Yr Ardd ar ‘Bargain Hunt’
Os na weloch chi’r Ardd ar ‘Bargain Hunt’ y BBC ar Ddydd Llun, gallwch wylio’r bennod ar yr iPlayer yma.
Edrychwch ar yr awyr glas hyfryd yna!
Hocus Pocus Dan y Sêr
Mwynhewch ddigwyddiad Calan Gaeaf cynnar yma yn yr Ardd ar Ddydd Sadwrn, Hydref 28ain, gyda phrofiad sinema awyr agored yn dangos y clasur gan Disney, Hocus Pocus!
Bydd yna gwisg ffansi Calan Gaeaf, pwll tân, barbeciw, bar, pwnsh Calan Gaeaf, afalau taffi, popgorn, cerddoriaeth bwganllyd a mwy.
Bydd yna wobrau i’r wisg ffansi gorau!
Gan fydd hi hefyd yn ddiwrnod cyntaf hanner tymor yr hydref, bydd yna ddigonedd o ddigwyddiadau i’r teulu ymlaen gan gynnwys cerfio pwmpenni, concyrs, dowcio am afalau, celf a chrefft yn ystod y dydd, a fydd eich tocyn sinema yn caniatáu mynediad i’r Ardd hefyd, felly pam na wnewch chi ddiwrnod ohoni?
Mae tocynnau yn £12 i oedolion ac £8 i blant dan 16 mlwydd oed, ac ar gael yma. Digwyddiad yn dechrau am 5yh, ffilm yn dechrau am 6:30yh.
Llun gan Mathew Browne Photography.
Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig
Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfa hedfan dyddiol am 2:30yp!
Gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, Tylluan Wen a llawer mwy!
Teithiau Tywys Treftadaeth
Ar Ddydd Mercher cyntaf a Dydd Gwener olaf pob mis, o fis Hydref i fis Mawrth, dewch i ddysgu mwy am hanes hynod o ddiddorol yr Ardd. Gan ddechrau am 2yp o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr.
Mae’r tir yn anwastad a gall fod yn fwdlyd; gwisgwch esgidiau cadarn os gwelwch yn dda.
Mercher Mwdlyd
Pob Dydd Mercher yn ystod tymor yr ysgol, mae yna awr o weithgaredd hwyliog yn yr awyr iach i’r plant lleia a’u gofalwyr! Gan ddechrau am 11yb o’r Porthdy.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg os gwelwch yn dda – 01558 667149.